Pont Fawr Llanrwst

Pont Fawr Llanrwst

llanrwst_pont_fawr_watercolourRoedd rhyd yn croesi afon Conwy yn y cyffiniau hyn ymhell cyn pontio’r dŵr. Cafodd y bont wreiddiol ei datgan yn anniogel ym 1626, a dechreuodd paratoadau ar gyfer codi pont newydd. Arianwyd y brosiect gan bobl Sir Gaernarfon (i’r gorllewin o'r afon) a Sir Ddinbych (i'r dwyrain o'r afon). Ym 1634 rhoddwyd cytundeb i bedwar saer maen o Swydd Gaerhirfryn i adeiladu'r bont newydd. Mae plac ar ochr de’r Bont Fawr yn dangos y flwyddyn 1636 ac arfbais frenhinol.

Yn anffodus, gosododd gweithwyr meini clo’r bwa canolog wyneb i waered, ac fe syrthiodd y bwa ar y diwrnod agoriadol. Mae’r bwa canolog yn codi i tua 18 medr uwchben y dŵr.

llanrwst_inigo_jonesRoedd gan y pensaer enwog Inigo Jones gysylltiad proffesiynol â theulu cyfoethog Wynn yn Llanrwst, ac yn ôl y chwedl, ef a ddyluniodd Pont Fawr. Defnyddiwyd y lluniau a welwch yma (trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) o'r bont ac Inigo Jones yn llyfrau Thomas Pennant am ei deithiau yng Nghymru yn y 1770au.

Ysgrifennodd Pennant fod dau a fwâu’r bont yn hynod brydferth ac yn arddangos “llaw’r pensaer”, ond roedd y trydydd – wedi ei ailadeiladu ym 1703 – yn israddol. Roedd Inigo wedi newid Ynyr, ei enw cyntaf go iawn, i Inigo neu Ignatius pan aeth i’r Eidal, yn ôl Pennant.

Yn rhedeg i fyny uchder llawn y bont y mae gwaith cerrig siâp bwa llong, sef cutwaters i leihau trawiad y dŵr ar yr adeiladwaith. Mae'r afon yn tywys dŵr o ran helaeth o Eryri tua’r môr yn cynnwys o Ddyffryn Mymbyr (tua Capel Curig), un o'r llefydd gwlypaf ym Mhrydain. Ailadeiladwyd y bwa gorllewinol ym 1703, ar ôl i’r gwreiddiol syrthio yn 1702. Ers hynny mae'r bont wedi gwrthsefyll llifogydd di-ri a dyfodiad cerbydau ffordd modur.

Mae'r bont yn rhy gul i gerbydau i basio arni, ac mae'r twmpath-gefn yn cyfyngu gwelededd gyrrwyr. Mae hyn yn esbonio’r llysenw lleol - Pont y Rhegi.

llanrwst_pont_fawr_drawingEfallai y rhegodd William Peers un noson dywyll ym 1907 pan dorrodd yr injan dracsiwn a yrrai trwy'r wal ym mhen Llanrwst o'r bont. Ar ôl croesi'r afon, roedd wedi camfarnu lleoliad y briffordd. Neidiodd y taniwr a dau labrwr (a oedd yn gweithio ar adeiladu gwaith alwminiwm Dolgarrog) yn glir. Syrthiodd Mr Peers tua thri metr i lan yr afon. Dywedwyd bod yr injan wedi cylchdroi yn llwyr yn yr awyr cyn iddo daro gwely'r afon tua chwe metr o dan y ffordd.

Côd post: LL26 0ET    View Location Map

Gwelwch mwy o lyfrau Thomas Pennant – gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru