Porthmadog Cob viewpoint Cymraeg

Golygfan Cob Porthmadog

Defnyddiwch y llun isod i adbnabod y copaon a welir o'r Cob mewn tywydd teg.

Yr Wyddfa ydi mynydd uchaf Cymru . Ystyr "Gwyddfa" ydi man claddu. Mae’r enw hwn yn gysylltiedig â chwedl Rhita Gawr. Dywedir y claddwyd y cawr ar y mynydd. Roedd Rhita wedi gwneud ei ddillad o farfau’r gelynion a laddodd. Mae stori hynafol tebyg yn bodoli yng Ngwlad Pwyl, am gawr o’r enw Rittagorus. Mae hyn yn awgrymu cysylltiad Celtaidd rhwng Cymru a gwlad Pwyl.

O amgylch copaon Glyder Fawr a'i gymydog Glyder Fach y mae pentyrrau o greigiau mawr, sydd efallai yn egluro'r enw “Glyder”. Mae hyn yn deillio o “Cludair”, sef hen air Cymraeg am domen o wrthrychau.

Yr Arddu yw llethr du, neu dywyll. Yn ogystal â bod yn enw ar y mynydd sydd i’w weld o’r Cob, mae “Yr Arddu” hefyd yn ymddangos yn enwau'r nodweddion daearyddol ychydig i'r gogledd o gopa'r Wyddfa – ar ochr cysgodol y mynydd.

Mae "Cnicht" yn dod o'r gair Saesneg “knight”. Efallai roedd siâp trionglog y mynydd wrth ei weld o'r cyfeiriad hwn yn debyg i helmed marchog, neu efallai y daw'r enw o deulu Knight, a oedd yn dirfeddianwyr sylweddol yn yr ardal. Mae ffordd y Cymry Cymraeg o ynganu “Cnicht” yn dangos sut y byddai Saeson canoloesol yn ynganu "knight".

Yn anamal heddiw y gwelir Moelwyn Mawr yn wyn, ond efallai yn y gorffennol pell roedd eira’n gorwedd ar y copa am ran helaeth o'r flwyddyn.

Mae Craig Bwlch y Moch yn ardal boblogaidd ar gyfer dringwyr.

Ymhle mae’r HiPoint hwn?

photo_of_view_from_porthmadog_cob

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button