Gorsaf Harbwr Porthmadog

sign-out

Gorsaf Harbwr Porthmadog

Codwyd adeilad Gorsaf yr Harbwr ym 1878-1879, gan ddisodli casgliad o adeiladau pren. I'r gogledd mae'r hen sied nwyddau, a adeiladwyd yn 1880 ac sydd rwan wedi’i gysylltu at y prif adeilad. Yr orsaf hon ydi terfynfa Rheilffordd Ffestiniog, a adeiladwyd er mwyn cysylltu chwareli Bro Ffestiniog â'r harbwr a adeiladwyd yn Port Madoc (fel y gelwid Porthmadog bryd hynny) ym 1821-1825. Agorwyd y rheilffordd ym mis Ebrill 1836. Ym 1863 hon oedd y rheilffordd gul cyntaf yn y byd i gyflogi locomotifau stêm.

Daeth trenau teithwyr i ben ar 15 Medi 1939, wrth i’r Ail Ryfel Byd gychwyn. Roedd y rheilffordd oedd mewn cyflwr gwael ar ôl y rhyfel, a daeth i ben yn llwyr ym mis Awst 1946. Yn y Ddeddf Seneddol a awdurdododd adeiladu'r rheilffordd, doedd dim darpariaeth ar gyfer cau’r rheilffordd! Felly gadawyd yr holl adeiladau, trac ac offer yn eu lle. Llwyddodd cyfeillion rheilffyrdd i brynu'r cwmni a dechrau gweithredu trenau i deithwyr dros y Cob i Boston Lodge ym 1955. Cafodd y rheilffordd ei adfer mewn camau yr holl ffordd yn ôl i Flaenau Ffestiniog, ac mae bellach yn un o'r atyniadau twristiaeth mwyaf yng Nghymru.

Ers 2011 mae trenau teithwyr hefyd yn gadael o Orsaf yr Harbwr am Gaernarfon, ar hyd Rheilffordd Eryri. Yn hydref 2011 dechreuodd gwaith i ehangu'r orsaf fel bod llwyfan bob un i drenau Blaenau Ffestiniog a Chaernarfon.

Côd post: LL49 9NF    Map

Rheilffordd Ffestiniog ar HistoryPoints.org

Gwefan Rheilffordd Ffestiniog

Sail, steams & slate Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button