Amddiffynfeydd arfordirol y Rhyl

Amddiffynfeydd arfordirol y Rhyl

Ers y foment i’r Rhyl gychywn datblygu fel tref, mae amddiffynfeydd arfordirol cadarn wedi bod yn hanfodol i’r dref. Mae llawer o'r Rhyl yn is na lefel y llanw uchel, felly gallai toriad yn y morglawdd fod yn drychinebus i’r trigolion a busnesau lleol. Gorlifodd y môr i mewn i rhai adeiladau ym 1990, pan adawodd llanw ymchwydd tua 6,000 o bobl yn ddigartref dros dro (yn bennaf i'r gorllewin o'r afon Clwyd).

Dechreuodd y gwaith yn 2009 ar ddylunio amddiffynfeydd newydd ar gyfer gorllewin y Rhyl, lle’r oedd mwy na 2,000 o breswylwyr a 560 adeilad masnachol mewn perygl o lifogydd llanw. Dechreuodd a gwaith adeiladu ym mis Mai 2011. Roedd rhai o'r amddiffynfeydd yn ngorllewin y Rhyl yn dyddio'n ôl cyn belled â 110 o flynyddoedd. Roedd hyd yn oed y rhai mwyaf newydd tua 60 mlwydd oed.

Mae'r strwythurau newydd wedi eu cynllunio i wrthsefyll llanw uchel a storm o rym mor eithriadol y byddai dim ond disgwyl iddi ddigwydd unwaith bob 200 mlynedd. Mae'r cynlluniau hefyd yn cymryd i ystyriaeth y cynnydd disgwyliedig yn lefel y môr dros y ganrif nesaf. Cafodd y brosiect £10m ei oruchwylio gan Gyngor Sir Ddinbych a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.

Map

 

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button