Pafiliwn Llangollen

Agorwyd Pafiliwn Cydwladol Brenhinol Llangollen gan y Frenhines Elizabeth II yn 1992. Dyma prif leoliad Eisteddfod Gerddorol Gydwladol Llangollen, lle mae cerddorion a dawnswyr o bob rhan o'r byd yn cystadlu mewn ysbryd o gyfeillgarwch a harmoni.

Cynlluniwyd yr adeilad gan DY Davies Associates fel lleoliad y gellid ei ehangu i ddarparu ar gyfer cynulleidfaoedd mawr yr Eisteddfod. Ar adegau eraill o'r flwyddyn, mae’r pafiliwn yn darparu awditoriwm llai ar gyfer perfformiadau a digwyddiadau eraill. Mae'r adeilad yn cynnwys prif fynedfa trawiadol. Mae’r rhan o’r adeilad o wnaed o gerrig a llechi yn gartref i swyddfeydd ac ardal y llwyfan.

Pan fydd yr estyniad o ddeunydd cynfas yn cael ei godi ar gyfer yr Eisteddfod, ceir naws Eisteddfodol y tu fewn, gyda chadeiriau pren ar lawr glaswelltog. Gweithdredir y pafiliwn gan Gyngor Sir Ddinbych.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Gydwladol gyntaf ym 1947 fel ymateb Cymru at erchyllterau'r ddau ryfel byd. Y ddamcaniaeth oedd bod cerddoriaeth yn iaith ryngwladol, a byddai dod â phobl o wledydd ledled y byd ynghyd i ganu ac i ddawnsio yn meithrin goddefgarwch, dealltwriaeth a heddwch. Mae dros 4,000 o berfformwyr yn teithio i Langollen bob mis Gorffennaf i gystadlu mewn oddeutu 25 o gystadlaethau. Mae'r profiad o berfformio yn Llangollen wedi ysbrydoli nifer o bobl i ddilyn gyrfaoedd cerddorol, yn cynnwys Luciano Pavarotti, a ganodd yn Llangollen efo’i gôr lleol o Modena ym 1955.

Cod post: LL20 8SW     Map

Gwefan pafiliwn Llangollen

Gwefan Eisteddfod Llangollen

button_tour_canal3-E Navigation up stream buttonNavigation downstream button