Swyddfa Llywodraeth Cymru

Swyddfa Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno

Cafodd swyddfa newydd Llywodraeth Cymru yn y Gogledd ei hagor yn swyddogol ym mis Medi 2010 gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru. Mae ar ran o safle’r hen ffatri Hotpoint a oedd yn arfer gwneud peiriannau golchi.

Photo of Hotpoint factory in Llandudno JunctionHotpoint oedd y prif gyflogwr lleol ar ôl i ddepo rheilffordd Cyffordd Llandudno ddod i ben. Mae’r lluniau o’r ffatri i’w gweld yma trwy garedigrwydd Gwasanaeth Archifau Conwy, sydd â chasgliad mawr yn ymwneud â ffatrïoedd Hotpoint yma ac ym Modelwyddan.

Gwnaed ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru y byddai, erbyn 2010, wedi sefydlu swyddfeydd newydd ym Merthyr Tudful, Aberystwyth a Chyffordd Llandudno. Golyga hyn fod gan Lywodraeth Cymru bresenoldeb cryfach ymhob rhan o Gymru. Mae’r swyddfeydd yn gartref i swyddi o bob rhan o’r Gogledd, swyddi wedi eu symud o Gaerdydd, a rhai swyddi a grëwyd o’r newydd i gefnogi’r swyddfa. Mae staff y swyddfa yn gweithio i nifer o adrannau’r llywodraeth, gan gynnwys addysg, gwasanaethau plant, trafnidiaeth a busnes a menter.

Photo of Hotpoint factory in Llandudno JunctionCynlluniwyd yr adeilad gan y penseiri Austin-Smith Lord, ac fe’i hysbrydolwyd gan yr hyn sydd o’i gwmpas. Dyma’r adeilad mwyaf gwyrdd sydd gan Lywodraeth Cymru, ac mae ei nodweddion amgylcheddol yn cynnwys pwll ar gyfer oeri cyflenwad awyr iach y swyddfa, ailgylchu dŵr a boeler biomas. Defnyddiwyd deunyddiau lleol lle bo modd, ac mae llechi Chwarel y Penrhyn yn amlwg ar y tu allan, gyda’r addurn copr yn cyfeirio at y mwynfeydd copr sydd ar y Gogarth ers miloedd o flynyddoedd.

Mae croeso i ymwelwyr yn y rhan gyhoeddus, sef y Bont. Mae yno gaffi, cyhoeddiadau ac arddangosfa, a gellir cael mynediad i’r we am ddim. Mae Llyfrgellwyr wrth law i roi cymorth i’r cyhoedd gael gafael ar ddogfennau neu wybodaeth ar-lein. Yn ogystal â chroesawu ymwelwyr unigol, gall y swyddfa drefnu ymweliad ar gyfer grwpiau cymunedol, ysgolion a cholegau. I drefnu ymweliad grŵp, cysylltwch ag ybontgogledd@cymru.gsi.gov.uk neu 0300 062 5603.  Mae’r Bont ar agor yn ystod dyddiau’r wythnos rhwng 9 y bore a 5 y prynhawn.  

Yn 2060, bydd capsiwl amser yn cael ei dynnu o’r ddaear dan y dderbynfa. Cafodd ei gladdu ym Mai 2010, ac mae’n cynnwys eitemau gan ddisgyblion o bedair ysgol leol, clybiau ieuenctid a rhai o weithwyr y swyddfa. Mae cerflun efydd o ferlen fynydd Gymreig wrth y fynedfa.

Côd post: LL31 9RZ    View Location Map

Gwefan Gwasanaeth Archifau Conwy

National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button