Swyddfeydd Bodlondeb, Conwy

Swyddfeydd Bodlondeb, Conwy

Adeiladwyd ty Bodlondeb ym 1877 ar gyfer Albert Wood. Roedd ei deulu wedi gwneud ei ffortiwn gyda ffatri angorau a cheblau yn Saltney, Caer. Dewisiwyd angorau’r cwmni ar gyfer y Great Eastern – gan Brunel – y llong fwyaf yn y byd yn ei hamser. Ymhlith y cwsmeriaid a ddefnyddiai Wood’s Patent Anchor oedd y Llynges Frenhinol. Codwyd nifer o adeiladau sylweddol eraill ar hyd arfordir Gogledd Cymru fel tai delfrydol i bobl a oedd wedi creu cyfoeth yn niwydiannau gogledd-orllewin Lloegr.

Roedd tai cynharach wedi eistedd ar y llethr yma, gyda’i golygfeydd dros foryd Conwy. Adeiladodd Thomas Holland, aelod o deulu cyfoethog lleol, dy yn ardal Bodlondeb ym 1742.

Ymhlith yr ymwelwyr a groesawodd ty Bodlondeb oedd y cyfansoddwr Syr Edward Elgar a’r prif weinidog David Lloyd George. Roedd y Frenhines Victoria yn awyddus i aros ym Modlondeb, ond roedd y ty yn rhy fach iddi a’i gosgordd.

Dychwelodd Lloyd George i Fodlondeb ym 1937 i lywyddu dros y seremoni i drosglwyddo’r ty a 60 acer o dir i’r cyhoedd. Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Conwy oedd y ty wedi hynny. Rwan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sydd a’i bencadlys a’i brif siambr yma. Ym 1991 agorwyd estyniad, mewn arddull tebyg i’r ty gwreiddiol, ar gyfer swyddfeydd ychwanegol.

Mae parc Bodlondeb, yn agos at furiau’r hen dref, yn ardal hamdden bwysig i breswylwyr ac ymwelwyr. Mae’n gartref i Glwb Criced Conwy ac yn croesawu Gwyl Rhyngwladol Cerdd a Dawns Bluegrass pob haf. Mae llwybrau cyhoeddus yn gwahodd cerddwyr i fwynhau Coed Bodlondeb gyda’i goridor o blanhigion celyn. Mae nifer o fathau eraill o goed yn tyfu yng Nghoed Bodlondeb, yn cynnwys y dderwen, ffawydden, onnen, bedwen, ywen, y goeden geirios, pinwydden yr Alban a’r dderwen bythwyrdd.

Côd post:  LL32 8DU    Map