Tafarn Ye Olde Mail Coach

Tafarn Ye Olde Mail Coach, Stryd Fawr, Conwy

Un o’r tafarndai hynaf yng Nghonwy ydi Ye Olde Mail Coach (a ynghanir “The Old Mail Coach”). Mae ei enw presennol yn adlewyrchu defnydd yr adeilad yn y 18ed a 19ed canrifoedd fel man gorffwys i yrrwyr coetsys tra byddai eu teithwyr yn edrych o gwmpas y dref neu’n gorffwys am ennyd cyn y rhan nesaf o’r siwrne faith dros Ogledd Cymru.

Byddai’r coetsys yn parcio mewn buarth y tu cefn i’r dafarn. Mae rhan o’r buarth yn awr yn ardd gwrw i’r cwsmeriaid. Credir y byddai’r coetsys yn cyrraedd y dref trwy Porth Uchaf, yna’n disgyn i lawr Stryd Porth Uchaf a Stryd y Capel cyn troi i mewn i Crown Lane i ganfod y buarth.

Roedd Conwy yn gorwedd ar lwybr y coetsys rhwng Llundain a Dulyn, heibio Caergybi. Daeth hyn â chyfnod o lewyrch i’r dref. Ar un adeg roedd yna bron 50 o dafarndai yn y dref. Gallai teithwyr fwynhau gwylio ceiliogod yn ymladd mewn adeilad a godwyd yn arbennig at y pwrpas. Mae’r adeilad yn dal i fod, yn yr ardal rhwng Plas Mawr a Sgwar Lancaster. Daeth oes y coetsys i ben pan agorwyd llinell y Chester & Holyhead Railway yn y 1840au.

Côd post: LL32 8DE

Where is this HiPoint?