Tafarn yr Anglesey Arms, Caernarfon

button-theme-crimeTafarn yr Anglesey Arms, Caernarfon

Tŷ Tollau oedd yr adeilad hwn yn wreiddiol, o bosibl yn dyddio o 1736.  Un o’r lluniau mwyaf diddorol o’r dafarn yw hwn - hanner yn heulwen, hanner yn y cysgod (trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru), a gafodd ei gynnwys yn llyfr Thomas Pennant am ei deithiau ar draws Cymru yn y 1770au.

caernarfon_castle_and_anglesey_arms

Bryd hynny y rhan hwn o’r cei oedd y prif bwynt mynediad ar gyfer mewnforion i Gaernarfon o Gulfor Menai. Roedd swyddogion tollau yn cadw llygad barcud i sicrhau bod y dyletswyddau cywir yn cael eu talu wrth gyrraedd gyda’u cargo. Un o’r swyddogion yma oedd y Capt William Lloyd, tad y pensaer John Lloyd a gynlluniodd cymaint o adeiladau nodedig Caernarfon.

Yn 1838 arestiwyd Boaz Pritchard, masnachwr lleol a oedd yn berchen ar long hwylio fach. Roedd trigolion Caernarfon yn ofni mynd allan yn y nos rhag ofn iddynt ddod ar draws hers a ddywedwyd bod ei gweld yn dod â lwc ddrwg i bobl. Pan ysbeiliodd swyddogion tollau warws Pritchard’s fe ddaethon nhw o hyd i 99 casgen o frandi contraband, hers ac arch!

Dros dri degawd cyntaf y 19eg ganrif, crëwyd glanfeydd newydd ar hyd afon Seiont, i'r de o'r castell, i drin allforion lleol, llechi yn bennaf. Roedd twristiaeth hefyd yn cynyddu, a daeth yr hen gei yn lle poblogaidd i ymwelwyr fynd am dro wrth y dŵr gan edmygu’r  olygfa drosodd i Ynys Môn. Yng nghanol y ganrif, agorodd Swyddfa Tollau newydd ym Mhorth yr Aur a daeth yr hen Dŷ Tollau yn Westy'r Anglesey Arms. Cafodd ei ailadeiladu a'i ehangu'n helaeth yn ddiweddarach yn y ganrif honno.

Yn 1887, cafodd y Capten John Roberts o Westy’r Anglesey Arms ei siwio gan David Williams, brocer llongau, dros werthiant sgwner Capt Roberts, o’r enw Emily Wynne. Honnodd Mr Williams fod ganddo hawl i gomisiwn o 5% o'r pris gwerthu, £ 275 10s. Dyfarnodd Llys Sirol Caernarfon fod ganddo hawl i gael comisiwn o 2.5%.

Mae'r Anglesey Arms yn agos at y tŵr yn waliau'r dref a oedd ar un adeg yn fan crogi yn y dref, sef y “tŵr crogi”. Dywedir bod ysbrydion direidus sy'n tynnu gwydrau o silffoedd ac yn aflonyddu ar y gwesteion. Byddai’r gwydrau yn hongian yn yr awyr cyn cwympo i’r llawr, ond byth yn torri. Mae gwesteion sydd wedi aros yn yr ystafelloedd gwely i fyny'r grisiau wedi adrodd am ddigwyddiadau rhyfedd, gan gynnwys sŵn allweddi yn troi yn y cloeon tra nad oedd neb gerllaw.

Diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad

Côd post: LL55 1SG    Map  

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
 Tour button link for Caernarfon Transport & Industry tour Navigation previous buttonNavigation next button