Y Fach, Y Gogarth, Llandudno

Wrth i Landudno ddatblygu fel cyrchfan o 1850, daeth Y Fach – neu “the Happy Valley” – yn boblogaidd gydag ymwelwyr oherwydd ei fawredd naturiol.

Happy Valley in early 1890sYn 1872 bu cwynion am fasnachwyr yn codi cytiau yno i werthu “eitemau ffansi” i dwristiaid. Soniwyd am ddarparu maes pleser ym 1873, a gosodwyd llawr ar gyfer sglefrio ar esgidiau rholio ym 1875.

Mae’r ardal wedi’i siapio fel amffitheatr naturiol, ac yn 1872 rhoddodd Mr Round’s Promenade Band berfformiadau awyr-agored yma. Yn 1873 dechreuodd sioe clerwyr (“minstrels”), yn cynnwys perfformwyr gwyn gyda’u hwynebau wedi duo, yma – heb unrhyw lwyfan ffurfiol a dim ond pabell gloch fechan i'r artistiaid newid ynddi. Yn ddiweddarach, adeiladwyd llwyfannau parhaol.

Early view of Happy ValleyYn 1887, i ddathlu Jiwbilî’r Frenhines Fictoria, caeodd yr Arglwydd Mostyn (y prif dirfeddiannwr lleol) y chwareli cyfagos a rhoi “the Happy Valley” (fel y gelwid Y Fach yn gyffredin erbyn hynny) i’r dref fel parc parhaol. Plannodd y cyngor goed a gosod gerddi creigiau a phyllau. Cwblhawyd y gwaith ym 1890 pan ddadorchuddiwyd y ffynnon yfed, sy'n cynnwys penddelw o'r frenhines. Mae’r hen luniau yn dangos Y Fach yn fuan wedyn.

Photo of Happy Valley with minstrel show in progressRoedd y clerwyr yn atyniad mawr yn Llandudno. Pan gymerodd Roy Cowel yr awenau ym 1930 gyda’i Cowel’s Querries, daeth â’r traddodiad o dduo i ben. Roedd ei sioe hefyd yn cynnwys artistiaid benywaidd a dawnsio. Daeth sioeau Y Fach i ben yn 1987, o ganlyniad i newid chwaeth a'r ymyrraeth gyson gan geir cebl yn clecian i mewn i'r orsaf isaf gerllaw. Mae caffi bellach ar safle llwyfan y clerwyr.

Codwyd y cylch cerrig yma yn 1963, pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandudno. Cynhelir y digwyddiad mewn man gwahanol bob mis Awst. Defnyddir cylch cerrig ger pob lleoliad y brifŵyl ar gyfer seremonïau Gorsedd y Beirdd.

Yn 1999 cafodd y gerddi eu huwchraddio gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Crëwyd cerfluniau mewn pren o gymeriadau amrywiol o straeon Alice’s Adventures in Wonderland. Mae cyswllt y dref ag Alice yn cael ei esbonio ar ein tudalen am gartref gwyliau ei theulu.

Gyda diolch i John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanes Llandudno a Bae Colwyn

Cod post: LL30 2QL    Map

Llandudno Showbiz Tour Lable Navigation previous buttonNavigation next button