Y Bulkeley Arms a Sgwâr Uxbridge

Logo of Welsh Place Name SocietyY Bulkeley Arms a Sgwâr Uxbridge, Porthaethwy

Codwyd y Bulkeley Arms ar Sgwâr Uxbridge, Y Sgwâr yn Gymraeg, yng nghanol Porthaethwy. Mae enw’r dafarn yn coffáu teulu o wŷr mawr a drigai yn Baron Hill, gerllaw Biwmares. Mudodd y teulu i Fiwmares o Bulkeley ger Cheadle (rhwng Caer a’r Eglwys Wen neu Whitchurch), yn Swydd Gaer.

Photo of Uxbridge Square in 1896Derbyniodd Biwmares siartr gan Edwart I yn 1296; roedd yn rhan o’i ymgyrch i estyn ei awdurdod yng Nghymru. O’r cyfnod hwnnw bu ymgyrch bwriadol i gryfhau gafael y Saeson ar Fiwmares trwy ddenu ymsefydlwyr o fwrdeisiaid i’r dref o siroedd megis Swydd Amwythig, Swydd Gaerhirfryn, ac yn arbennig o Swydd Gaer. Mudodd teulu Bulkeley i Fiwmares yn hanner cyntaf y bymthegfed ganrif; daethant yn un o deuluoedd Seisnig mwyaf dylanwadol yr ardal. Ymsefydlodd y teulu yn Henblas cyn symud i Baron Hill yn yr ail ganrif ar bymtheg. Ceir gwesty o’r enw Bulkeley Hotel ym Miwmares yn ogystal.

Mae Sgwâr Uxbridge yn coffáu teulu arall o wŷr mawr. Mae'r hen lun, a dynnwyd gan John Thomas yn 1896, yn dangos y sgwâr wedi'i addurno â baneri i ddathlu bod Iarll Uxbridge, mab Ardalydd Môn, wedi cyrraedd oedran gŵr. Dangosir y llun yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn y ddeunawfed ganrif yr enw ar y groesffordd hon oedd Fingerpost, yna daeth yn Bulkeley Square (ar ôl y dafarn). Rhoddwyd yr enw Sgwâr Uxbridge ar y safle yn 1896 i goffáu bod yr Iarll wedi cyrraedd oedran gŵr. Roedd hyn yn rhan o broses o enwi neu ailenwi strydoedd gan y cyngor tref, oedd wedi penderfynu na ddylai unrhyw stryd gael ei henwi ar ôl tafarn!

Roedd hyn yn rhan o broses o enwi neu ailenwi strydoedd gan y cyngor tref, oedd wedi penderfynu na ddylai unrhyw stryd gael ei henwi ar ôl tafarn! Crëwyd y teitl Ardalydd Môn i'r Arglwydd Paget (1768-1854) i gydnabod ei arweinyddiaeth ym Mrwydr Waterloo yn 1815, lle collodd ei goes wrth arwain cyrch. Cafodd y tir y cododd Plas Newydd arno. Bellach, mae’r plasty ar lan y Fenai, ddwy filltir i’r de o Llanfair Pwllgwyngyll (neu Llanfairpwll), yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn 1816 codwyd cofgolofn neu dŵr i anrhydeddu’r ardalydd. Mae dros 27 medr o ran ei uchder. Yr ardalydd a goffeir hefyd yn enw gwesty’r Anglesey Arms, gerllaw Pont y Borth sef pont grog Thomas Telford.

Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen a David Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Côd post: LL59 5DF    Map

Gwefan y Bulkeley Arms

Place Names Unbundled Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button