History Points main logoHistory Points message logo
download mp3
Gwyneth the gardner

Button link back to growm ups pagePont Arglwyddes Bute

Mae'r bont fechan hon wedi'i henwi ar ôl yr Arglwyddes Maria North (Arglwyddes Bute), a oedd yn byw gyda'i theulu yng Nghastell Caerdydd.

Adeiladodd y teulu Bute y bont oherwydd doedden nhw ddim yn hoff o'r syniad o nofio ar draws y dŵr i gyrraedd eu gerddi ar yr ochr arall!

Gofynnodd Arglwyddes Bute i'r gweithwyr balu ffynnon ger y bont hefyd, fel y gallai ei theulu gael dŵr glân i'w yfed bob amser. Allwch chi ddod o hyd iddo?

Mae'r bont yn lle da i sefyll a gwylio'r hwyaid yn chwarae yn y dŵr.

Portrait of Lady Bute
Click Me buttonCLICIWCH YMA i gael eich llythyren seren i'w roi ar eich taflen!

Wedi cyrraedd pen y daith?

Click Me buttonCliciwch yma i ddysgu am eich gair seren!
Os nad ydych wedi casglu taflen weithgareddau o Ganolfan Addysg Parc Bute, Ystafelloedd Te Pettigrew, Caffi'r Tŷ Haf neu Gaffi'r Ardd Gudd, cliciwch yma am fap o godau QR y plant.