Cafnau dŵr Mochdre

sign-out

Cafnau dŵr rheilffordd cynta’r byd, Ffordd yr Orsaf, Mochdre

Ym 1860 arbrofodd y London & North Western Railway ym Mochdre efo technoleg newydd er budd teithwyr yn yr Irish Mail a threnau chwim eraill. Gosodwyd cafnau hir rhwng y cledrau a’u cadw’n llawn dŵr. Gan ddefnyddio sgwpiau arbennig, cai injieni stêm godi dŵr tra’n symud. O ganlyniad, cyflymwyd siwrneau gan nad oedd rhaid cynnwys cyfnodau segur yn yr amserlenni ar gyfer ail-lenwi’r tanciau dŵr.

Roedd y trac ym Mochdre yn addas gan ei fod yn wasted a chan fod trenau’n pasio’n gyflym –rhywbeth angenrheidiol i orfodi’r dŵr i ddringo i fyny ac i mewn i danciau’r injieni. Gosodwyd cafnau dŵr newydd yn Abergwyngregyn ym 1871 yn lle’r rheini ym Mochdre, lle’r oedd y cyflenwad dŵr yn annibynadwy.

Gosodwyd cafnau dŵr ar brif reilffyrdd bron ledled Prydain, er y cai teithwyr eu gwlychu ambell dro gan ddŵr yn tasgu i fyny o waelod injian a oedd yn codi dŵr tra’n pasio i’r cyfeiriad arall! Parhaodd rhai cafnau dŵr ar ôl dyfodiad yr injieni disel cynnar, a ferwai dŵr i wresogi’r cerbydau. Cwmni’r New York Central & Hudson Railroad oedd y cyntaf yn Unol Daleithiau America i efelychu cafnau dŵr Mochdre.

Roedd Ffordd yr Orsaf, ym Mochdre, ar un adeg yn arwain at orsaf reilffordd fechan o’r enw Mochdre a Phabo. Agorodd yr orsaf ym 1889 a chaeodd ym 1931. Ym 1904 ychwanegwyd dau drac arall rhwng Bae Colwyn a Chyffordd Llandudno, i greu pedwar lein gyflin. Yn yr 1980au, symudwyd y traciau (dim ond un pâr erbyn hynny) ychydig tua’r gogledd er mwyn i briffordd yr A55 gael ei hadeiladu ar hen wely’r rheilffordd.

Cod post: LL28 5EF    Map