Gwarchodfa Corstiroedd Llanbedr Gwynllwg

Mae'r gronfa hon yn gorwedd ar hyd blaendraeth arfordirol aber yr Hafren. Mae’n safle rhagorol ar gyfer gwylio’r adar sy’n cael eu denu i diroedd bwydo cyfoethog y fflatiau llanw mwdlyd a’r morfa heli. Yng nghanol y warchodfa fe welwch Peterstone Gout, lle mae llawer o'r dŵr ffres a gasglwyd gan system draenio Lefelau Gwent yn cael ei ollwng i’r Hafren.

Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent yn berchen ar yr hawliau pysgota am ddau cilomedr sgwâr o’r blaendraeth, ac mae ganddo gytundeb gyda'r Wentlooge Wildfowling and Conservation Association i gynnal ardal dim-saethu ar ochr orllewinol aber Peterstone Gout.

Mae'r ardal yn cynnal poblogaethau pwysig o adar hirgoes megis y gylfinir, pibydd y mawn, pibydd coesgoch, cwtiad y traeth, pioden y môr a phibydd yr aber. Gwelir y chwiwell, corhwyden, hwyaden lostfain a hwyaden yr eithin yn aml. Hwyaden arall i wylio amdano yw’r hwyaden lydanbig, gyda phig llydan yn debyg i sbatwla.

Mae rhai adar ysglyfaethus i’w gweld yng ngolau’r dydd yn cynnwys y dylluan glustiog, hebog tramor a'r cudyll bach, aderyn ysglyfaethus lleiaf Prydain.

Mae “gout” yn tarddio o’r Hen Saesneg gota a Saesneg Canol gote am sianel, draen, cylfat neu nant. Mae i'w weld yn Goyt (Cheshire) a sawl Gut drwy'r wlad, ac yn The Gouts (Roch, Penfro).

Gyda diolch i’r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, ac i Richard Bakere

Gweld Map Lleoliad

Gwefan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button