Rhaeadr Ewynnol

Badge for Bwtys-y-Coed community council button-theme-history-for-all-W

BSL-USED-HERE---logo

Tua 4km i'r gorllewin o Fetws-y-coed, mae'r afon Llugwy yn disgyn yn gyflym mewn rhaeadr ysblennydd. Mae wedi bod yn atyniad poblogaidd ers y 19eg ganrif oherwydd ei agosrwydd at ffordd Thomas Telford o Lundain i Gaergybi (yr A5 bellach).

Cofnodwyd yr enw yn 1773 fel Rhaiadr y wenol or the Waterfall of the Swallow. Mae’n debyg mai cyfeiriad ydi hyn at debygrwydd y dŵr i gynffon wennol lle y mae craig fawr yn rhannu'r llif yn ddwy ffrwd.

Photo of Swallow Falls in 1890sRhaeadr Ewynnol ydi’r enw Cymraeg safonol heddiw. Mae ewynnol yn air Cymraeg cymharol ddiweddar (a gofnodwyd yn gyntaf yn 1795), cyfystyr ag ewynnog. Cafodd y gair ei gymhwyso at y rhaeadr yn oes Fictoria, mae'n debyg gan siaradwyr Cymraeg a ail-ddehonglodd y wennol fel yr hyn a ystyrient oedd yn fwy "cywir", sef Ewynnol.

Rhoddwyd y rhaeadr i'r cyngor lleol yn 1913 gan yr Arglwydd Ancaster. Dechreuodd y cyngor godi tâl bychan ar ymwelwyr i helpu i dalu am wariant y cyngor ar gyfleustodau dŵr a thrydan newydd Betws-y-coed.

Yn 1904, roedd yna bryderon ynglŷn ag effaith weledol reilffordd ysgafn arfaethedig o Fetws-y-coed i Feddgelert. Roedd y cyngor o’r farn y byddai'r rheilffordd yn "anafu'r amgylchedd o ddifrif" ger Rhaeadr Ewynnol, ac y dylai’r cledrau basio mewn twnnel. Cytunodd papur newydd lleol, a oedd yn annog “brwydr egnïol” dros y rhaeadr. Addawodd peirianwyr y rheilffordd y byddai'r llwybr mewn twnnel neu doriad dwfn yn y lleoliad hwn, a byddai'r trenau yn cael eu pweru gan hydro-drydan, gan osgoi “sŵn a mwg”. Ni adeiladwyd y rheilffordd.

Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Côd Post: LL24 0DW    Map

Gwasgwch y triongl i wrando ar y testun:

Telfords Irish Road Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button