Cofeb Croes Fictoria William Waring, y Trallwng

PWMP logoCofeb Croes Fictoria William Waring, Neuadd y Dref, y Trallwng

Ar wal Neuadd y Dref ceir cofeb a osodwyd yn 2015, i William Herbert Waring. Bu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf o ganlyniad i’w ymdrechion arwrol a enillodd iddo Groes Fictoria – anrhydedd mwyaf Prydain am ddewrder.

Ganed William yn 1885 i Richard ac Annie Waring ac roedd ganddo bump o frodyr a chwiorydd. Bu Richard yn wneuthurwr hoelion, ac wedyn yn werthwr pysgod. Roedd y teulu’n byw yn Raven Street ac yn ddiweddarach yn Rock Terrace. Ar ôl cael addysg, roedd William yn labrwr ar y prosiect i adeiladu’r argaeau mawr yng Nghwm Elan. Bu’n chwarae i glybiau pêl-droed lleol.

Ymunodd ag Iwmoniaeth Sir Drefaldwyn yn 1904 ac fe’i dyrchafwyd yn Sarsiant cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gwasanaethodd gydol y rhyfel bron, gan aros ag Iwmoniaeth Sir Drefaldwyn pan ddaeth yn 25ain Bataliwn o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

welshpool_william_waring_medals

Cyflwynwyd y Medal Milwrol i William yn 1917 am ei ddewrder yn ystod ymosodiad ar leoliadau Twrcaidd ger Gaza. Yn 1918 symudodd i Ffrynt y Gorllewin yn Ffrainc. Yn Ronssoy, yn ardal y Somme, bu’n rhan o’r ymdrech fawr olaf i wthio’r Almaenwyr allan o’r ardal hon, lle collwyd cynifer o fywydau’r Cynghreiriaid mewn cyrchoedd blaenorol.

Yn ystod y brwydro ar 18 Medi, rhedodd ar ei ben ei hun i gadarnle Almaenaidd, lle trywanodd bedwar milwr â bidog a dal dau â’u gynnau. Yn wyneb saethu di-baid, ail-drefnodd ei ddynion a’u hysbrydoli i wthio ymlaen 365 metr. Anafwyd William ac fe’i cludwyd i ysbyty yn Le Havre, lle bu farw ar 8 Hydref 1918, yn 32 oed. Fe’i claddwyd yn Le Havre a chaiff ei goffau ar fedd y teulu yn Eglwys Crist.

Cedwir medalau William (yn y llun ar y chwith) gan y cyngor tref. Mae atgynhyrchiad ohonynt i’w gweld y tu mewn i Neuadd y Dref.

Gyda diolch i Natalie Bass

Cod post: SY21 7JQ    Map

I barhau â thaith y Trallwng (Powys) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch draw i gyfeiriad Broad Street. Mae’r codau QR nesaf i’w gweld wrth y fynedfa i Neuadd y Dref
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button