White Rabbit statue Cymraeg

Cerflun y Gwningen Wen, Penmorfa, Llandudno

Crewyd y cerflun hwn gan saer maen lleol, Frederick Forrester. Dadorchuddiodd y cyn Prif Weinidog David Lloyd old photo of white rabbit statuteGeorge y cerflun ym 1933. Mae’n dathlu’r cysylltiad, yn ôl y plac, rhwng ardal Penmorfa a’r awdur Lewis Carroll, a gafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu Alice in Wonderland tra’n cerdded yma gydag Alice Liddell.

Ond peidwich â choelio’r plac! Arferai Dean Liddell, tad Alice, i ddod a’i deulu i dŷ lletya yn Llandudno o Rydychen ar eu gwyliau. Ym 1861 penderfynnodd gael tŷ gwyliau i’r teulu ym Mhenmorfa. Cwblhawyd y tŷ, Pen Morfa, ym 1862 (gweler y llun ar y dde).

Roedd Carroll eisioes wedi adrodd stori Alice in Wonderland wrth Alice Liddell a’i chwiorydd yn Sir image_of_pen_morfaRhydychen ym 1862, ac fe ysgrifenodd y llyfr ym 1863. Dydi’r dyddiadau ddim yn cydfynd!

Fodd bynnag, mae’n debyg mai Carroll a dynnodd ffotograff o Ben Morfa sy’n dangos ei hun yn sefyll o flaen y camera. Gallwch weld y ffotograff ar ein tudalen am safle’r adeilad, a ddymchwelwyd yn 2008.

Symudwyd cerflun y Gwningen Wen at y safle presennol yn 2015. Yn gynharach roedd y cerflun ger y llyn ar gyfer cychod model.

Gyda diolch i John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanes Llandudno a Bae Colwyn

Cod post: LL30 2AY    Map
Ghosts & Legends Tour Lable Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button