Black Lion Inn blaenorol, Conwy

button-theme-history-for-all-W

British Sign Language logoBlack Lion Inn blaenorol, Stryd y Castell, Conwy

Tybiwyd am amser bod yr adeilad hwn yn dyddio o 1589, y dyddiad a welwch uwchben y drws blaen. Dyddiwyd sampl o drawst i 1441-42, sef cyfnod ail-adeiladu yn dilyn dymchwel y dref gaerog yn 1401 gan fyddin Owain Glyndŵr. Yn wreiddiol roedd gan yr adeilad dwy neuadd a nenffyrch cymalog. Cafodd ei drawsnewid yn 1589, pan ddaeth yn breswyl wal carreg ar ddau lawr gyda rhodfa aelwyd.

Mae’r llythrennau JB hefyd yn ymddangos uwchben y drws. JB oedd John Brickdall, ficer Conwy ac aelod o’r teulu cefnog a dylanwadol Brickdall. Roedd y tŷ naill ai’n ficerdy neu’n breswyl preifat iddo.

Cafodd yr adeilad ei ailfodelu yn y 18ed ganrif fel y Black Lion – tafarn ar gyfer pobl a oedd yn teithio gyda coets a cheffyl. Roedd gan y Black Lion ei ffynnon ei hun, a selar a oedd yn ôl sôn yn cynnwys twnnel dianc cyfrinachol (o dan wal y dref) i’r cei. Mae hanesion bod dau ysbryd yn yr adeilad, un sy’n fwy sinistr a'r llall sy’n fwy chwareus a direidus.

Yn 1935, prynodd William Henry Morgan yr adeilad ac roedd yn rhedeg ei fusnes peirianneg trydanol o'r adeilad stablau blaenorol yn yr iard yn y cefn. Cafodd blaen yr adeilad ei brydlesu i denantiaid a oedd yn rhedeg siop fferins.

O 1958 ymlaen roedd yr adeilad yn siop de ac yn fusnes hen bethau. Yn 2002, prynodd Ian Hughes, perchennog busnes atgyweirio ceir lleol, yr adeilad a dechreuodd ar y gwaith o adnewyddu. Bu i un o’i gurwyr panel greu jac-do metel sydd ar ben y to. Mae pobl sydd wedi eu geni o fewn y waliau’r dref yn cael eu hadnabod fel "jac-do".

Bu i Angharad Jones, y perchennog newydd, gwblhau’r gwaith atgyweirio ar yr adeilad ar gyfer defnydd preswylio yn 2015.

Gyda diolch i Ray Castle

Cod post: LL32 8AY  Map

Gwefan 11 Stryd y Castell - yn cynnwys adroddiadau archeolegol

Ghosts & Legends Tour Lable Navigation previous buttonNavigation next button
Conwy Food & Drink Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button