Llewod carreg, Pont Britannia, Treborth

sign-out

bangor_britannia_bridge_lionsMae pâr o lewod carreg wrth ymyl y rheilffordd bob ochr i Bont Britainnia. Heddiw mae’n anodd gweld y llewod o drenau sy’n pasio, oherwydd lleoliad dec y ffordd, a ychwanegwyd yn 1977-1980. Ond o 1850 i 1970, gallai teithwyr edrych drwy'r ffenestri wrth i’w trên nesau at y bont a gweld y llewod yn amlwg y tu allan i byrth y bont. Crewyd y llewod gan y cerflunydd John Thomas. Roeddent yn adleisio’r arddull Eifftaidd a ddefnyddiwyd ar gyfer gwaith maen strwythurol y bont.

Yn oes Fictoria, ysbrydolodd y llewod y bardd lleol John Evans i ysgrifennu ei gerdd mwyaf cofiadwy. Roedd Evans yn meddwl amdano’i hun yn fardd gwych, ond roedd pobl yn ymateb i’w waith gyda dirmyg. Adnabyddid ef fel Y Bardd Cocos, oherwydd ei fod yn gwerthu bwyd o’r môr i ennill ei fywoliaeth.

Dyma’i gerdd am y llewod garreg:

Pedwar llew tew
Heb ddim blew:
Dau’r ochr yma
A dau’r ochr drew.

Gallwch ddarllen mwy amdano ar ein tudalen am ei fedd ym Mhorthaethwy.

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button