Rhiwledyn

Rhiwledyn

Mae penrhyn Rhiwledyn yn gwahanu Llandudno o Fae Penrhyn. Roedd chwarel yn gweithredu yma o’r 1880au hwyr. Dadorchuddiwyd twll dwfn naturiol yn 1891, lle canfuwyd olion ysgerbydol o wraig yn dyddio o tua 5,570 o flynyddoedd yn ôl. Darganfuwyd pethau hefyd o Oes yr Efydd, gan gynnwys gwaywffon efydd ac esgyrn anifeiliaid sydd bellach wedi diflannu ym Mhrydain fel y rhinoseros a’r arth.

Uwchben clogwyni Rhiwledyn mae ogof lle cafodd y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru ei argraffu, yn ystod erledigaeth y Pabyddion ym Mhrydain yn oes Elisabeth. Yn 1585 cynhyrchodd Robert Pugh, gyda chymorth grŵp o offeiriaid, gyfrol fach o'r enw Y Drych Cristionogawl. Yn ei dŷ, a elwir bellach yn Hen Neuadd Penrhyn, mae "twll offeiriad" lle gallai offeiriaid Catholig guddio.

Old photo of Devil's Cave, Little OrmeMae'r ogof yn fach, gyda mynedfa isel. Darganfyddwyd y wasg ym 1587 pan welodd person ar gwch fwg yn dod o’r ogof. Anfonodd Syr Thomas Mostyn o Neuadd Gloddaeth 40 o ddynion. Fe wnaethant benderfynu ei bod yn rhy beryglus i fynd i mewn trwy'r twll 60cm o uchder, a sefyll yn wyliadwrus trwy'r nos. Yn y bore roedd y bobl oedd yn gyfrifol am y wasg wedi diflannu.

Darganfu'r gwarchodwyr fod simnai allan o'r brif siambr, ac roedd yr offeiriaid wedi dianc trwyddi. Bu llawer o wahanol straeon am yr ogof hon, ond ym 1962 daeth archeolegwyr o hyd i dystiolaeth sy'n ymddangos fel ei bod yn dilysu'r stori.

Mae’r hen lun yn dangos ogof arall ar Rhiwledyn, Ogof y Diawl, siambr fawr y gellid ei chyrraedd dim ond o’r môr. Mae'r clogwyni – naturiol ac o waith dyn – yn fannau nythu delfrydol i adar gan gynnwys adar drycin y graig, cigfrain a thylluanod bach. Mae morloi llwyd yn defnyddio Porth Dyniewaid, i'r gogledd o weddillion y chwarel, fel meithrinfa yn yr hydref. Mae gwarchodfa natur Rhiwledyn, sy'n cynnwys glaswelltir calchfaen yn bennaf, yn gorchuddio rhan dde-orllewinol Rhiwledyn. Rhoddwyd y tir hwn i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru mewn ewyllys ym 1994.

Ynglŷn â'r enwau lleoedd:
Little Orme’s Head: Daw Orme o air Sgandinafaidd, gan gyfeirio at y pentir yn debyg i ben sarff.
Rhiwledyn: Ysgrifennwyd fel Rwledyn ym 1349. Rhiw = llethr neu fryn. Efallai mai Lledin oedd un o'r morwynion a gladdwyd ym Morfa Rhiannedd (Deganwy), yn ôl y chwedl.
Trwyn y Fuwch: Yr enw ar y penrhyn i’r gogledd-ddwyrain, efallai oherwydd y siap a welwyd gan forwyr.
Porth Dyniewaid: Morloi oedd dyniewaid y môr.

Gyda diolch i John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanes Llandudno a Bae Colwyn, ac i'r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Cod post: LL30 3AY    Map

HiPoints CYNHANESYDDOL eraill yn yr ardal hon:
Gweithfeydd Copr Y Gogarth
Coed y Gopa, Abergele

Wales Coastal Path Tour Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button