Gwesty'r Commodore, Llandrindod

Gwesty'r Commodore, Llandrindod

Pan benodwyd Henry de Winton, archddiacon Aberhonddu, yn rheithor Llandrindod ym 1881, rhoddodd orchymyn i adeiladu rheithordy deulawr mawr, yn agos at Eglwys y Drindod Sanctaidd. Cafodd y rheithordy ei gwblhau ym 1884 a heddiw mae'n ffurfio blaen Gwesty'r Commodore. Cafodd yr adran a elwir bellach yn Gaban Pren (ar yr ochr ogleddol) ei hadeiladu fel Ysgol Sul.

Aerial photo of Hotel Commodore in 1953
Y gwesty o'r awyr ym 1953, trwy garedigrwydd CBHC a'i wefan Coflein

Mae’r llun o’r awyr, trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos y gwesty ym 1953., gyda’r eglwys i’r chwith Daw o Gasgliad Aerofilms Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Bu farw’r Archddiacon de Winton yn Ninbych y Pysgod yn Ebrill 1895. Ym 1896 prynodd y Dr Alfred Griffith Greenway y rheithordy a'i droi'n dŷ preswyl o'r enw Plas Winton. Yn ddiweddarach cafodd yr adeilad ei helaethu, gyda dau lawr ychwanegol yn yr un arddull Celf a Chrefft.

Roedd gan Dr Greenway, a fu farw ym 1907, ran yn y gwaith o ddatblygu Llandrindod fel sba iechyd, ac ym 1893 darganfu ffynnon ddŵr haearnol a oedd yn anhysbys cyn hynny ger llyn y dref. Roedd ffynhonnau o'r fath yn gyfoethog mewn halwynau haearn, y credid eu bod yn dda i iechyd. Rhoddodd hyn fasnach dwristiaeth ffyniannus i’r dref a'r elfen "Wells" yn ei henw.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd aelodau o Gorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin (4ydd Corfflu’r Fyddin) yn cael eu lletya yn y gwesty. Erbyn Chwefror 1915 roedd mwy na 3,600 o filwyr Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin wedi'u lleoli yn Llandrindod, lle roedd yr awdurdodau wedi cymryd drosodd lawer o adeiladau ar gyfer llety a hyfforddiant. Roedd hyd yn oed siop farbwr i'r catrodau yn Stryd Middleton!

Ar ôl helpu ymdrech y rhyfel fel hyn, newidiodd y perchnogion yr enw o Westy Plas Winton i Westy'r Commodore ar ôl y rhyfel.

Aethpwyd â Jane Sheen o Westy Plas Winton i'r llys ym Medi 1916 am adael i olau trydan llachar ddisgleirio trwy un o ffenestri’r adeilad ar ôl iddi dywyllu. Nodai Deddf Amddiffyn y Deyrnas na ddylai "dim mwy na golau pŵl" fod yn weladwy o'r tu allan i unrhyw adeilad - un o’r rhagofalon yn erbyn cyrchoedd a ofnid gan Zeppelins (awyrlongau’r Almaen).

Gwrthodwyd eithriad dros dro o wasanaeth milwrol i Aaron Stephens, 35, porthor y gwesty a garddwr Miss Sheen, ym mis Mawrth 1916. Roedd wedi dadlau mai ef oedd yr unig un a allai gynnal ei fam weddw yn Nhref-y-clawdd.

Roedd gwesteion mewn blynyddoedd diweddarach yn cynnwys Brenin yr Iorddonen. Cafodd un o'r ystafelloedd ymolchi ei hailfodelu i gwrdd â'i ofynion ac mae’n parhau i gael ei defnyddio heddiw.

Cod post: LD1 5ER    Map

Gwefan Gwesty'r Commodore

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk

I barhau â thaith Llandrindod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch i lawr Spa Road dros bont y rheilffordd ac heibio’r siopau. Y tu hwnt i’r cylchfan, cerddwch i’r dde, hebio adeilad mawr y Gwalia, at y capel y tu ôl i’r Gwalia
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button