Cartref dynes a lofruddiwyd nos Nadolig, Bethesda

button-theme-womenbutton-theme-crimeCartref dynes a lofruddiwyd nos Nadolig, Bethesda

bethesda_gwen_ellen_jonesRoedd Gwen Ellen Jones (ganedig Parry) yn byw yn 21 Cae Star. Roedd tai ar bob ochr i Stryd Ogwen yma ac ar safle maes parcio Cae Star heddiw. Cyhoeddwyd y llun hwn o Gwen (ar y dde) yn Yr Herald Cymraeg ym 1910.

Chwarelwr oedd John, tad Gwen ac fe briododd hithau â chwarelwr maen o Lanfairfechan ym 1898. Wrth weithio yn ei chartref fel golchwraig, ffurfiodd berthynas â William Murphy, labrwr teithiol a milwr gyda’r milisia. Ym 1903 cawsant blentyn a gadawodd Gwen ei gŵr. Mudodd hi a Murphy i lety yng Nghaergybi. Pan oedd Murphy yn gweithio i ffwrdd, trigai Gwen yma yng Nghae Star gyda’i thad (yr oedd ei iechyd yn wael), ei mab William a merch, Gwladys, yr oedd wedi’i mabwysiadu. Yn ôl adroddiadau o’r cyfnod, cafodd Gwladys ei geni yn nhloty Llanrwst a’i gadael gan ei mam enedigol.

Roedd Murphy yn aml heb waith ac roedd y cwpl yn gorfod cardota. Byddai Murphy weithiau yn dreisgar tuag at Gwen. Dyma ei lun ar y chwith, gyda diolch i Wasanaeth Archifau Gwynedd.

bethesda_william_murphy

Yn Rhagfyr 1909, tra roedd Murphy i ffwrdd, gadawodd Gwen ef am Robert Jones, dyn lleol. Daeth Murphy yma i Gae Star i chwilio amdani, bythefnos cyn y Nadolig a dywedodd tad Gwen gelwydd wrtho ynglŷn â lle roedd hi. Fodd bynnag, cafodd Murphy hyd iddi yng Nghaergybi gyda Robert Jones. O’i go oherwydd cenfigen, bygythiodd ladd Gwen oni fyddai’n mynd i’r De gydag ef.

Noson Nadolig, gofynnodd i Gwen, oedd wedi bod yn yfed, fynd am dro. Dechreuodd ei ffrind Lizzie eu dilyn ond dywedodd Murphy fod arno eisiau bod ar ben ei hun gyda Gwen.

Ar ôl cyrraedd cae tu ôl i Stryd Newry, Caergybi, fe dagodd Gwen ac yna torri ei gwddf nes bron â thorri ei phen i ffwrdd. Roedd wedi bwriadu ffoi i ddechrau, ond wedyn newidiodd ei feddwl a mynd i lety Gwen, lle rhoddodd geiniog i William a dweud wrtho nad oedd ganddo fam mwyach. Dangosodd y corff i rywun yr oedd yn ei adnabod ac aeth i swyddfa’r heddlu i gyffesu.

Ar ôl ei brawf ym Mrawdlys Biwmares, cafodd ei ddienyddio yng Ngharchar Caernarfon ar 15 Chwefror 1910, yr olaf un a grogwyd yno.

Ar 29 Rhagfyr 1909, cafodd Gwen ei chladdu mewn bedd tlotyn heb ddim i nodi’r fangre, ym Mynwent Caergybi (Maeshyfryd). Chwalwyd y teulu bregus a fu’n ddibynnol arni. Cymerwyd ei phlant i ofal mewn cartrefi gwahanol ac ni wyddys a welsant ei gilydd byth wedyn.

Cod post: LL57 3AN    Map

Gyda diolch i Hazel Pierce o The History House a Barry Hillier, ac i Wasanaeth Archifau Gwynedd a'r Daily Post am y lluniau. Diolch i Dr Paul Rowlinson am y cyfieithiad

Gwefan Prifysgol Bangor - manylion hanes Gwen Ellen Jones gan Hazel Pierce

Gwefan Gwasanaeth Archifau Gwynedd 

Telfords Irish Road Tour label button_nav_5W-EWNavigation go West button

 
&