Penddelw’r Dywysoges Diana, Neuadd Dewi Sant

button-theme-womenPenddelw’r Dywysoges Diana, Neuadd Dewi SantPhoto of Princess Diana meeting Sir Geraint Evans

Crëwyd y penddelw hwn o’r Dywysoges Diana gan y cerflunydd Cymreig Robert Thomas. Fe’i cwblhawyd yn 1987 a’i gyflwyno i Gaerdydd gan aelodau Tŷ’r Arglwyddi ar 21 Gorffennaf 1989.

Ganed Diana Spencer yn 1961 yn Park House, ar ystâd y Frenhines yn Sandringham yn Norfolk.  Bu ei thad, yr Iarll Spencer, yn wastrawd i’r Brenin Siôr VI. Priododd y Tywysog Charles yn 1981. Fe gawsant ddau fab, William a aned yn 1982, a Harri, a aned ym 1984. Gwahanodd y ddau ym 1992.

Talodd y Dywysoges Diana Princess Di and Williamymweliad â Neuadd Dewi Sant sawl gwaith. Mae'r llun uchod yn ei dangos yn cyfarfod â’r canwr opera Syr Geraint Evans yn Neuadd Dewi Sant. Ar 1 Mawrth 1991 fe ddaeth â’r Tywysog William gyda hi i’r Neuadd, ar ei ymweliad cyhoeddus cyntaf (llun ar y chwith).

Bu farw mewn damwain car ym Mharis ym 1991. Roedd hi’n 36 mlwydd oed, a pharodd y newydd am ei marwolaeth sioc fawr ym Mhrydain a thros y dŵr.

Mae gweithiau eraill Robert Thomas yn cynnwys cerflun maint llawn o Aneurin Bevan, sefydlydd y Gwasanaeth Iechyd, yn Heol y Frenhines, Caerdydd. Ddeufis wedi ei farw yn 1999, dadorchuddiwyd ei gerflun o’r peiriannydd Isambard Kingdom Brunel gan y Tywysog Charles yn Neyland, sir Benfro.

Cod post: CF10 1AH    Map

Gwefan Neuadd Dewi Sant

 

St Davids Hall foyer  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button