Cerdyn post Bae Colwyn: Adeiladau Penrhyn

CCBC logo for Post cards from colwyn bay tourCerdyn post gwenithfaen: Adeiladau Penrhyn

Image of granite postcard for wartime BBC studio

Mae’r cerdyn post gwenithfaen hwn ar y prom ym Mae Colwyn yn ymwneud â stiwdio ddarlledu gyfrinachol a sefydlwyd yn yr Ail Ryfel Byd yng nghanol y dref. Roedd yn un o nifer o stiwdios cudd y byddai'r BBC wedi eu defnyddio ar gyfer cyfathrebu pe byddai’r Natsiaidd wedi bomio Broadcasting House yn Llundain neu lwyddo i oresgyn de Prydain.

Cafodd yr offer swyddfa ei osod ar lawr cyntaf Adeiladau Penrhyn, sy’n parhau i sefyll ar gornel Ffordd Penrhyn a Rhodfa'r Tywysog. Cliciwch yma i weld ein tudalen we a map am yr adeiladau a’r stiwdio.

Pan hawliodd y Llywodraeth yr adeilad ar gyfer defnydd rhyfel, caewyd y bwyty ar y llawr gwaelod. RRoedd bodolaeth y stiwdio yn anhysbys i’r mwyafrif o’r trigolion lleol drwy gydol y rhyfel ac am gyfnod wedi hyn. Roedd cyfrinachedd yn lleihau'r risg fod y Natsïaid yn darganfod lleoliad y stiwdio, y byddent wedi gallu ei difrodi wedyn.

Roedd y cohort bychan o staff ffyddlon yn y stiwdio yn cynnwys dau frawd a dderbyniodd y Groes Filwrol am eu hymddygiad yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cod post: LL29 8PT

Cliciwch yma am fap o leoliad y cerdyn post.

Postcards from Colwyn Bay Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button