Canolfan y Cyfryngau, Gerddi Sophia
Nid oes gan yr SSE SWALEC ond lle i gyfran fechan o’r bobl sydd â diddordeb brwd mewn criced. Gall y rhai sydd heb docynnau wybod y sgôr diweddaraf yn y cyfryngau.
Mae gan Griced Morgannwg Ganolfan y Cyfryngau gyfoes gydag ystod o stiwdios teledu a radio. Mae hefyd ardal helaeth i’r wasg ysgrifenedig gyda thros 100 o seddi, mewn haenau fel bod gan bob gohebydd olwg glir o’r ardal chwarae. Yng nghanolfan y cyfryngau mae ystafell gyflwyno o focs sylwebu mawr yn arbennig i Sky TV ac oedd, yn ystod gêm brawf 2015 y Lludw, gyda 43 o griwiau camera’n gweithredu yn y stadiwm!
Canolfan y Cyfryngau yn yr SSE SWALEC
Ers bron 30 mlynedd, roedd cyn-gapten Morgannwg a Lloegr Tony Lewis yn sylwebydd criced radio cyfarwydd ar y BBC.
Cyn darlledu, dibynnai’r cefnogwyr ar y wasg i roi crynodeb o gemau. Cyhoeddwyd yr adroddiadau cyntaf o gemau ym Mehefin 1889, yn fuan ar ôl i Swydd Warwig guro tîm newydd Morgannwg ym Mharc yr Arfau gan wyth wiced. Nid oedd Mr Docker, o dîm yr ymwelwyr, allan erbyn diwedd yr ornest. Heb adael ei wiced, trefnodd â Mr David, capten y tîm cartref, i barhau â batiad ei dîm at ddibenion arddangos. “Prin fod angen dweud i’r dorf floeddio ei chymeradwyaeth i’r penderfyniad,” meddai’r South Wales Daily News.
Gwefan Clwb Criced Sirol Morgannwg
Angen cymorth i weld lleoliad Gerddi Sophia? Cliciwch yma am fap
Mae'r codau QR ar gyfer y dudalen hon yn safle rhif 4 (coch) ar y map isod.