Y Caban, Brynrefail

Link to commissioned work information pages

Y Caban, Brynrefail

Enwir yr adeilad cymunedol hwn a'i ardd ar ôl yr ystafelloedd ciniawa lle byddai chwarelwyr gogledd Cymru yn bwyta eu cinio ac yn cymdeithasu.

Roedd y caban yn noddfa o beryglon ac annifyrrwch y gwaith ar y graig agored.  Esblygodd o fod yn gwt bach pren cyfyng i adeilad gyda lle i bawb a weithiai yn rhan honno'r chwarel fwyta, canu a chlebran. Roedd gan bob caban bwyllgor a llywydd.  Ymysg y pynciau a drafodwyd oedd gwleidyddiaeth, diwygiad crefyddol a materion undebol. Ar brydiau, cynhelid cyrddau gweddi a phartïon ymddeol yn y caban. Byddai rhai cabanau yn trefnu eu heisteddfodau eu hunain hyd yn oed, gan wahodd pobl o'r tu allan i feirniadu cystadlaethau barddoni, llenyddiaeth, canu, adrodd a cherddoriaeth grŵp. 

Ceir cymysgedd debyg o fwyd, diwylliant a chymdeithasu yn y Caban heddiw. Cafwyd y syniad am y ganolfan yn 1997, pan gynhaliodd artistiaid lleol arddangosfa yn Llanberis a phenderfynu bod angen cyfleuster drwy gydol y flwyddyn ar yr ardal lle gallai arlunwyr weithio, arddangos a gwerthu. Sefydlwyd cwmni cydweithredol (cyfyngedig drwy warant) o'r enw Caban Cyf, ac ehangwyd cwmpas y prosiect.

Gyda chyllid gan yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Gwynedd, adeiladwyd yr adeilad newydd ar safle'r hen Ysgol Brynrefail. Mae ffotograff o adeilad mawreddog yr ysgol yn y cyntedd.

Mae'r Cyngor yn llogi'r adeilad i Caban Cyf., a symudodd i'r adeilad ar Ddydd Gŵyl Ddewi 2004. Mae amrywiaeth o fusnesau bychain wedi ymgartrefu yn Y Caban ac mae yna gyfleusterau ar gyfer digwyddiadau cymunedol. Yn yr ardd yn y cefn caiff rhai o'r cynhwysion ar gyfer y prydau a weinir yn y caffi eu tyfu, gan gynnwys mêl o'r cychod gwenyn.

Cod post: LL55 3NR    Map

Gwefan Y Caban

LON LAS PERIS Tour label button_nav_5W-WENavigation blank button