Olion Abaty Llandudoch

Olion Abaty Llandudoch

Ger Canolfan Ymwelwyr y Cerbyty gellir gweld olion yr abaty canoloesol. Mae’r cysylltaid rhwng y safle hon ac addoli Cristnogol dipyn yn hŷn na hynny. Yn y Cerbyty gellir gweld cerfiadau Cristnogol lleol o’r bedwaredd ganrif ac o gyfnodau diweddarach.

Tua 1115 cyflwynwyd yr hen eglwys yma gan Robert Fitzmartin, Arglwydd Cemais, i abaty Tiron, ger Chartres, Ffrainc a oedd newydd ei sefydlu. Aelodau o Urdd Tiron a sefydlodd y priordy yn Llandudoch. Ehangodd y priordy yn fuan a’i ailddisgrifo fel unig abaty’r urdd yng Nghymru.

Treuliodd Gerallt Gymro ac Archesgob Caergaint noson yn yr abaty yn ystod eu taith o gwmpas Cymru yn 1188 yn recriwtio ar gyfer y drydedd groesgad. Mae dyddiadur Gerallt yn nodi fod y llety yn gysurus. Mae’n sôn hefyd fod Duw wedi cosbi dynion anghyfiawn yng nghantref Cemais. Lladdwyd un gan lu enfawr o lyffantod gwenwynig. Breuddwydiodd un arall y byddai’n dod o hyd i aur petai’n estyn ei law i nant ger rhyw graig arbennig. Aeth i’r lle a rhoi ei law yn y man. Cafodd ei frathu gan neidr wenwynig a bu farw.

Rhoddodd y brenin Harri III arian i gynnal yr abaty yn 1246. Ganrif yn ddiweddarach, bu gostyngiad yn nifer y mynachod yn sgil y Pla Du. Yn 1402, gymaint oedd gofid Esgob Tyddewi ynglŷn â buchedd y mynachod nes iddo eu gorchmyn i aros o fewn terfynau’r abaty oni chaent ganiatâd arbennig i grwydro!

Caeodd yr abaty yn 1537 yn sgil diddymu’r mynachlogydd gan Harri VIII. Credir i ran o’r abaty gael ei ddefnyddio fel eglwys y plwyf yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif.

Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1840 ar dir yr hen abaty, i’r gogledd o’r adfeilion. Mae yno garreg o’r bumed ganrif ac arni arysgrifen mewn Lladin ac Ogam. Bu hon o gymorth i ieithyddion ddehongli’r wyddor Ogam hynafol.

Yn y cerbyty a godwyd o gerrig o’r abaty yn ystod oes Fictoria, roedd stablau a storfa ar gyfer cerbydau’r ficerdy newydd gerllaw. Bellach ceir yma ganolfan arddangos ar gyfer treftadaeth a’r celfyddydau, oriel gelf a chaffi. A gwneir defnydd ohoni ar gyfer gweithgareddau cymunedol.

Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post : SA43 3DX    Map 

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button