Yr Hen Gei, Hwlffordd

button-theme-canalYr Hen Gei, Hwlffordd

Mae’r Hen Gei islaw’r bompren ddeheuol dros y Cleddau Wen. Am ganrifoedd byddai llongau’n angori yn yr ardal hon i’w dadlwytho neu er mwyn iddyn nhw lwytho nwyddau a derbyn teithwyr. Mae ‘r hen adeiladau ger y lanfa i’w gweld o hyd. Diolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am ganiatâd i ddangos yr ysgythriad o’r cei c.1813.

Picture of Havefordwest quay c.1813Hwlffordd oedd man llwytho swyddogol yr ardal ar gyfer tecstiliau, crwyn a gwlân. Oddi yma byddai llongau’n teithio i borthladdoedd ar draws ynysoedd Prydain cyn i rwydwaith y rheilffordd danseilio’r fasnach arfordirol. Ddechrau’r 1830au roedd Hwlffordd yn anfon gwerth £100,000 o nwyddau yn flynyddol - menyn ac ŷd yn bennaf – i Lerpwl ac i Lundain.

Nodir “y cei mawr” ar fap 1690. Mae llechen (ac arni’r dyddiad 1777) ar wal yr Hen Farchnad Wlân yn coffáu ailgodi’r cei. Yr enw ar y cei hwn yn oes Fictoria oedd yr Hen Gei (Old Quay), er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a’r Cei Newydd (New Quay) a’r Gas Quay.

Yr agerlong gyntaf i gyrraedd yr Hen Gei oedd y Frolic, llong y Bristol Steam Navigation Company a hynny yn Hydref 1830. Mae’n bosibl ei bod wedi’i henwi ar ôl Fortune’s Frolic sef llwybr troed poblogaidd yn Hwlffordd ar hyd glan yr afon. Teithiai’r stemar olwyn hon rhwng Bryste a Hwlffordd bob pythefnos tan iddi suddo mewn drycin yn 1831. Roedd plant i deuluoedd cefnog yn Sir Benfro ar eu ffordd i’r ysgol ym Mryste ymhlith y rheini a gollwyd.

Roedd llongau’r cwmni’n dal i gynnal gwasanaeth yn Hwlffordd yn 1870. Atgyweiriwyd y dafol ar y cei a oedd at wasanaeth y cyhoedd yn 1873. Yma gallai masnachwyr bwyso’r nwyddau a oedd yn cael eu cyflenwi ganddyn nhw.

Yn 1886 llogwyd agerlong o Fryste gan Jacob Beer, masnachwr glo ar yr Hen Gei a gŵr busnes mentrus, er mwyn cludo 100 o bobl. Yn ddiweddarach derbyniodd ddirwy o £5 gan nad oedd ei drwydded yn caniatáu iddo gludo dros 70 o deithwyr.

Bob haf cyrhaeddai llongau o Ffrainc yn cludo winwns. Yn 1907 bu ymladd rhwng dwy garfan o Sioni Wynwns pan gyrhaeddodd dwy long, y Germaine a’r Adele o Lydaw tua’r un pryd, rhywbeth nad oedd wedi digwydd erioed o’r blaen. Roedd llwyth o 90 tunnell ar y llongau, rhyngddyn nhw, a’r rheini i’w cadw mewn storfeydd ar yr Hen Gei. Ar yr Hen Gei yn ogystal, cysgai criw o ryw ddeg ar hugain neu ddeugain, deg ohonyn nhw ymhob stafell. Ddiwedd bob dydd dychwelai’r gwerthwyr ag arian gwerthiant y diwrnod hwnnw a’i roi i’r meistr. Byddai cynnen yn gyffredin. Roedd y Ffrancod bob amser yn gwsmeriaid da i’r gwerthwyr hufen iâ o Eidalwyr a byddai’r bwrlwm yn atgoffa’r trigolion hŷn o’r awyrgylch ar y cei cyn dyfodiad y rheilffyrdd.

Diolch i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA61 2AN    Map Lleoliad