Cerflun Arglwydd Nelson, Llanfairpwll

Ar gipolwg sydyn, mae'r cerflun hwn ar lannau'r Fenai yn ymddangos fel petai wedi cael ei godi yn y cyfnod o iwfforia a galar rhyfeddol a gafwyd yn dilyn marwolaeth Nelson ym Mrwydr Trafalgar yn 1805. Roedd Nelson wedi bod yn gymeriad o bwys ers iddo drechu llynges Ffrainc yn 1798. I sawl un roedd ei farwolaeth ym Mrwydr Trafalgar yn drychineb. 

Photo of Lord Nelson statue

Ond, ni chodwyd y gofgolofn hon yn ystod cyfnod y rhyfel yn erbyn Napoleon. Cerflun yw hwn gafodd ei godi flynyddoedd wedi marwolaeth Nelson, sef yn 1873, a hynny gan artist a oedd yn arbrofi gyda choncrit. Mae'r gofgolofn hefyd yn dirnod defnyddiol ar gyfer morwyr sy'n hwylio'r Fenai. 

Yr artist a'r cerflunydd a'i lluniodd oedd yr Arglwydd Clarence Paget, cyn Arglwydd y Morlys, a oedd yn byw nepell o'r llecyn hwn ym Mhlas Llanfair. Roedd Paget yn hen law ar ddefnyddio concrit er mwyn creu cerfluniau ar ei stâd. Roedd o eisoes wedi deall fod y deunydd newydd hwn yn fwy addas na marmor ar gyfer hinsawdd yr ardal arbennig hon, a hefyd roedd concrit yn llawer rhatach na marmor, efydd a charreg, ac roedd yn haws i'w drin. 

Yn ôl Syr Llewelyn Turner, cyn-Faer Caernarfon, bwriad Paget yn wreiddiol oedd creu cerflun o Neifion, sef un o dduwiau môr y Rhufeiniaid. Ond, doedd Turner ddim yn or-hoff o'r syniad hwn, ac fe fynegodd ei farn yn glir wrth Paget: 'Beth wnaeth Neifion erioed i ni? Nelson fysa'r testun gorau.' 

Tua'r cyfnod hwn roedd y Morlys wrthi'n gwneud arolwg o'r Fenai, ac fe lwyddwyd i berswadio Paget i newid ychydig ar ei gynllun gwreiddiol, er mwyn sicrhau y byddai'r cerflun hefyd yn gallu cael ei ddefnyddio fel tirnod ar gyfer llongau hwylio oedd yn teithio drwy'r rhan anodd hwn o'r culfor. 

Er mwyn cwblhau'r gwaith, rhoddwyd sment Portland a haearn iddo gan gwmniau masnachol, a phan ddadorchuddiwyd y gofadail ym mis Medi 1873, fe dalodd Clarence Paget deyrnged i Gymro teyrngar ac amyneddgar o'r enw John Jones, fu'n ei gynorthwyo i greu'r cerflun. 

Erbyn hyn, roedd y Morlys wedi sicrhau fod lleoliad y cerflun bellach wedi ei nodi ar fapiau a siartiau morwrol. 

Gyda diolch i Gerwyn James

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button