Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy

Roedd agor Ysgol Glan Clwyd ym 1956 yn garreg filltir yn hanes yr iaith Gymraeg. Hon oedd yr ysgol uwchradd gyntaf i ddarparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Ers hynny mae ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi dod yn rhan o'r system addysg yn holl ardaloedd Cymru.

Dechreuodd Ysgol Glan Clwyd gyda 94 disgybl mewn cyn-ysgol gynradd yn Y Rhyl. Y prifathro cyntaf oedd Haydn Thomas. Wrth i fwy o rieni ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant, tyfodd Ysgol Glan Clwyd yn rhy fawr i’r safle a symudodd i safle’r ysgol ramadeg yn Llanelwy ym 1969. Fodd bynnag, tyfodd y niferoedd o ddisgyblion eto ac oherwydd prinder lle yn yr 1970au hwyr bu’n rhaid i’r plant ieuengaf dderbyn eu gwersi yng Ngwersyll Cinmel, Bodelwyddan. Uchafswm y nifer o ddisgyblion oedd tua 1, 300, cyn i ddalgylch yr ysgol leihau gydag agor Ysgol y Creuddyn ym 1981.

Agorwyd Theatr Elwy ar safle Ysgol Glan Clwyd yn 2005. Mae ei awditoriwm yn daparu digon o seddi i 250 o bobl. Mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer dramâu a digwyddiadau eraill yr ysgol, ac fel cyfleuster ar gyfer cyfarfodydd cymunedol, cyngherddau, ffilmiau ac adloniant arall i’r cyhoedd. Y mae hefyd yn leoliad ar gyfer cyngherddau Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, a chynhelir yn flynyddol yn Llanelwy.

Côd post: LL17 0RP    Map

Gwefan Ysgol Glan Clwyd