Safle tafarn y Three Mariners, Aberteifi

tour logo and link to information page

Safle tafarn y Three Mariners, Aberteifi

Tan c.1942 roedd tafarn hynafol o’r enw ‘The Three Mariners’ ar y safle lle y mae Gardd Efeillio Aberteifi – Brioude heddiw. Yn ôl traddodiad lleol ymwelodd Harri Tudur â’r dafarn yn ystod ei daith drwy Gymru i Faes Bosworth ym 1485.

Mae cofnod o ddechrau’r 20 ganrif bod nodweddion o’r 17 ganrif yn perthyn i’r dafarn. Ond prin iawn yw olion o adeilad cynharach. Yn ystod yr ail Ryfel Byd dymchwelwyd y dafarn ac adeiladau cyfagos er mwyn lledu’r ffordd. Roedd y gwaith hwn wedi ei ddechrau yn y tridegau. Bryd hynny chwalwyd tai a oedd ar hyd wal y castell er mwyn hwyluso trafnidiaeth.

Glaniodd Harri Tudur a’i fyddin fechan ym Mill Bay, Sir Benfro ar 8 Awst 1485 ar ôl cyfnod yn alltud yn Ffrainc. Teithiodd Harri ar ras drwy orllewin Cymru. Wedi cyrraedd Aberteifi dywedir iddo roi hoe i’w ddynion er mwyn iddynt ymlacio ychydig. Dywedir i Harri ymweld â thafarn y Three Mariners a chysgu naill ai yno neu yn y castell.

Mae’r ardd sydd ar y safle heddiw yn dathlu gefeillio Aberteifi â Broude, tref yn ardal Auvergne yn Ffrainc. Trefnwyd y gefeillio yn 1972 ac mae cynrychiolwyr o Aberteifi yn teithio i’r Foire Expo (ffair fasnach) yn Broude bob yn ail flwyddyn. Mae hyd yn oed fwyty o’r enw Cardigan’s yn Broude!

Diolch i Keith Ladd, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA43 1HE    Map

Henry Tudor’s route to Bosworth  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button