Mynedfa i storfa fomiau cyfnod y rhyfel, Llanberis

theme page link button Link to commissioned work information pages

Mynedfa i storfa fomiau cyfnod y rhyfel, Llanberis

Y gofod agored hwn, i'r gorllewin o lwybr beicio a cherdded Lôn Las Peris, yw lle byddai trenau'n cael eu harallgyfeirio oddi ar brif lein Llanberis i gilffordd chwarel lechi gyfagos Glyn Rhonwy. Roedd y chwarel yn weithredol rhwng tua 1840 hyd 1930.

Ym 1869, ffrwydrodd dwy gert a oedd yn llawn ffrwydron hylifol ar gyfer y chwarel, yng Nghwm-y-glo. Lladdwyd chwech ac anafwyd nifer o bobol eraill, a thaflwyd malurion a rhannau o gyrff ar draws ardal eang. Mae'n debyg mai hwn oedd y ffrwydrad fwyaf erioed ar y pryd.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, storiwyd bomiau ffrwydrol iawn a bomiau tân yn yr hen chwarel, a ddewiswyd am ei bod yn hygyrch drwy'r ffordd a'r rheilffordd. Hefyd, roedd ei phellenigrwydd yn golygu fod llai o berygl i'r cyhoedd pe bai ffrwydrad wedi bod. Taenwyd gwastraff llechi dros y storfa fomiau i'w chuddio rhag awyrennau’r Almaen.

Aerial photo of Llanberis bomb store site in 1946Tybir bod y storfa y tu mewn i'r chwarel gymaint â dau gae pêl-droed. Dadlwythwyd y bomiau yng nghilffyrdd y rheilffordd ar eu newydd wedd ar ôl cael eu cludo'n uniongyrchol ar drên o'r ffatrïoedd arfau rhyfel lle'u cynhyrchwyd. Yn yr hen gytiau llechi ar y safle, byddai merched yn llenwi gwregysau arfau gyda bwledi ar gyfer gynnau peiriant. Pan oedd canolfan yr Awyrlu Brenhinol angen arfau ar gyfer ei hawyrennau, byddai archeb yn cael ei hanfon i Lyn Rhonwy ac yn cael ei danfon ar y ffordd neu ar drên.

Mae’r awyrlun o 1946, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos y storfa fomiau yn agos at y canol, gyda'r seidins rheilffordd ar y dde. Mae hanner y storfa fomiau heb ei do, a oedd wedi cwympo ym 1942 - yn ôl pob tebyg oherwydd pwysau eira a’r cuddliw llechi. Anfonwyd arfau o dan y to cwympedig i gyfleuster storio newydd yn RAF Rhiwlas, ger Bangor.

Ar ôl y rhyfel, cafodd y degau o filoedd o dunelli o arfau nad oedd wedi'u defnyddio eu symud i chwarel gyfagos a'u tanio. Perodd hyn i fwg du, trwchus guddio'r mynyddoedd. Yn y 1950au, ffurfiodd llyn yn y pant a adawyd ar ôl y chwarelydda blaenorol. Cafwyd gwared ar y dŵr pan ddechreuodd arbenigwyr ym 1969 ar yr orchwyl hirfaith o symud y ffrwydradau a'r sbardunau oddi yno.

Ffilmiwyd peth o’r ffilm arswyd The Keep yn yr hen chwarel yn y 1980au cynnar.

Map

LON LAS PERIS Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button

Troednodion: Atgofion am y safle

Roedd y gwaith i ddiogelu’r safle yn troi awyr gyda’r nos Llanberis yn goch gyda’r ffrwydradau, mae Gwyndaf Hughes yn ysgrifennu. Ni lwyddodd yr arbenigwr yn llwyr i glirio’r safle ac fe fu hogia Llanberis yn y twll ffrwydro gan ddarganfod pob math o fân ffrwydron, pob un yn rhai lladdol o’u camddefnyddio.

Cafodd un criw afael ar focs cyfan o fflêrs yn dal yn eu wrapars papur seimlyd ac fel newydd, ac o’u tanio rhoi’r mynydd ar dân. Galwyd y frigâd dân allan. Miglodd yr hogia i fyny’r mynydd ac i lawr yr ochr arall, ond gan fod arogl mwg arnynt, aethant yn ôl i fyny i weld y tân a chael esgus i’w rhieni pam yr arogl mwg!