Seren yr Wyddfa, Llyn Padarn

photo_of_snowdon_star_boatSeren yr Wyddfa, Llyn Padarn

Seren yr Wyddfa ydi’r gwch teithwyr sydd fel arfer wrth yr angorfa ger maes parcio pentref Llanberis. Fe’i hadeiladwyd yn Bridlington, Swydd Efrog, ym 1946 ar gyfer y don disgwyliedig o dwristiaid ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Enwyd y gwch Shamrock II, ac roedd yn cymeryd ymwelwyr ar deithiau lleol o Scarborough tan i un o’i pherchnogion, Frank Dalton, gael ei ladd mewn damwain bad achub ym mis Rhagfyr 1951. Rhoddwyd medal efydd iddo, ar ôl ei farwolaeth, am y rhan a chwaraeodd mewn achub 10 moriwr Iseldiraidd o long. Gwasgwyd ef rhwng a llong a’r bad achub, a bu farw yn fuan ar y bad achub.

Ail-enwyd y gwch, sy’n 45 metr o hyd ac yn defnyddio injan ddiesel Ford, y Southampton Star erbyn haf 1952, a buodd yn darparu mordeithiau o’r pier brenhinol yn Southampton. O 1975 roedd yn gweithredu o Torquay, Dyfnaint. Symudodd i Lyn Padarn ym 1999 a chael ei hail-enwi Seren yr Wyddfa, neu Snowdon Star. Mae ar y gofrestr o Llongau Hanesyddol Cenedlaethol ac yn parhau i ddarparu teithiau ar y llyn o’r lanfa ger yr amgueddfa lechi, Llanberis.

Map 

LON LAS PERIS Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button