Gwesty’r Ivy Bush, Caerfyrddin

Gwesty’r Ivy Bush, Caerfyrddin  (Llwyn Iorwg)

Yn 1819 cynhaliwyd achlysur yn y gwesty hwn, gorsaf i’r goets fawr ar y pryd, a chreu cyswllt rhwng Gorsedd y Beirdd a’r eisteddfod am y waith gyntaf.

Yn Llundain yn 1792 y cynhaliwyd cyfarfod cyntaf yr Orsedd dan arweiniad Edward Williams, sy’n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol sef Iolo Morgannwg. Bardd a radical gwleidyddol oedd Iolo ac yn gaeth i’r cyffur laudanum. Ffugiodd ddogfennau er mwyn argyhoeddi pobl bod ffrwyth ei ddychymyg, gan gynnwys yr Orsedd, yn tarddu o hanes hynafol y derwyddon Celtaidd.

Meddai’r eisteddfod ar ganrifoedd o draddodiad dilys eisoes; cynulliad o feirdd ydoedd yn wreiddiol a fynnai roi trefn ar reolau barddoniaeth a chodi safonau llenyddol. Thomas Burgess, esgob Tyddewi a symbylodd gynnal yr eisteddfod daleithiol yn yr Ivy Bush yn 1819. Cododd Iolo gylch bychan o gerrig derwyddol ar dir y gwesty a chynnal seremoni’r Orsedd. Gwisgodd aelodau’r Orsedd rhwymynnau o wahanol liwiau am eu breichiau.

Byth oddi ar hynny, bu cysylltiad clos rhwng yr Orsedd a’r eisteddfod, yn enwedig yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir mewn lleoliad gwahanol ym mis Awst, bob blwyddyn. Mae aelodau’r Orsedd yn dal i wisgo gwisgoedd derwyddol o wahanol liwiau ar gyfer seremonïau megis Cadeirio’r Bardd. Yn y gorffennol roedd cylchoedd o gerrig mawr mewn llawer tref yng Nghymru, gan gynnwys canol Caerdydd, i arwyddo bod seremonïau’r Orsedd wedi’u cynnal yno. Er 2005 defnyddir cerrig plastig y gellir eu symud yn hwylus o le i le, er mwyn arbed cost codi cylchoedd cerrig parhaol.

O 1794 bu’r Ivy Bush yng ngofal Charles Nott. Ei fab ef oedd y Cadfridog Syr William Nott, milwr a gafodd yrfa nodedig yn yr Ymerodraeth Brydeinig ac a gofféir gan gerflun ar Faes Nott, Caerfyrddin. Yn 1806 hysbysebodd Mrs Nott am “wraig ganol oed” i gadw tŷ ac i fod yn forwyn iddi. Yn 1809 roedd Mr Nott yn chwilio am “handsome modern built post-chaise with a barouche box” (sef cerbyd pedair olwyn). 

Yn ystod oes Fictoria roedd Helfa Dyfrgwn Siroedd Penfro a Chaerfyrddin a Chymdeithas Ceidwadwyr Sir Gaerfyrddin ymysg y mudiadau a fyddai’n cwrdd yn y Royal Ivy Bush (fel yr adwaenid y lle bryd hynny).

Yn Ebrill 1909 cynhaliwyd Llys Sirol Misol Caerfyrddin yma. Y prif achos i’w ddwyn gerbron oedd achos Thomas Morley o Landybïe a honnodd i’w “motor bus” gael ei niweidio gan geffyl a chart a oedd yn eiddo i gigydd o Lanarthne o’r enw Samuel Jones.

Diolch i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA31 1LG    Map

Gwefan Gwesty'r Ivy Bush Royal