Traeth Lafan Cymraeg

Traeth Lafan, Llanfairfechan

Pan fydd y llanw’n isel, efallai ei bod yn anodd credu fod unrhyw ddŵr yn gwahanu Sir Fôn o Lanfairfechan. Mae pen ddwyreiniol Y Fenai yn llawer llydanach na’r rhan i’r gorllewin o Fangor. Yma y mae’r llanw a thrai yn gorchuddio a dadorchuddio tua 25km sgwâr o dywod a llaid, ar hyd rhyw 9.5km o’r arfordir.

Yn y Canol Oesoedd roedd Traeth Lafan yn ffurfio llwybr teithio allweddol rhwng y tir mawr a Llanfaes, prif ganolfan crefydd a masnach yn y gornel yma o Sir Fôn cyn datblygiad Biwmares. Croesai teithwyr y tywod a hwylio mewn cychod fferi dros y sianel. Ym 1282 daeth lluoedd y brenin Edward I â chychod pren i ffurfio pontŵn ar draws y sianel ar gyfer ymosodiad ar yr ynys, ond fe’u curwyd yn hawdd gan ddynion Llywelyn.

Mae Traeth Lafan a’r tir wrth y lan yn gynefin pwysig i fywyd gwyllt, cynefin sy’n elwa o’r nentydd ac afonydd sy’n llifo dros y tywod gan ddod â dŵr croyw o Eryri. Yn yr hydref a’r gaeaf, mae’r ardal yn gartref i’r gymuned mwyaf ym Mhrydain o’r gwyach fawr gopog (great crested grebe) yn bwrw plu. Ymhlith yr adar eraill a welir yma y mae pioden y môr, yr hwyaden lygad aur a’r hwyaden frongoch (red-breasted merganser).

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Wales Coastal Path Tour Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button