Meddygfa Eglwysbach, Heol Berw

MePhoto of Rev John Evansddygfa Eglwysbach, Heol Berw

Mae'r ganolfan iechyd, mewn hen gapel, yn cymryd enw pentref yng Ngogledd Cymru sydd fwyaf adnabyddus fel lleoliad Gardd Bodnant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Felly beth yw'r cysylltiad? Mae'r stori yn mynd nôl i 1840 a ​​genedigaeth John Evans yn Eglwysbach, ger Conwy. Fe'i magwyd ar fferm y teulu, a mynychodd Capel Ebeneser yn y pentref. Dechreuodd bregethu pan oedd ond yn 17 mlwydd oed. O fewn misoedd, yr oedd yn denu cynulleidfaoedd mawr i gapeli. Disgwyliai swyddogion capeli i’r pregethwr enwog i fod yn llawer hŷn, ac yn aml cai John Evans drafferthion gael mynediad drwodd i'r pulpud!

Roedd yn weinidog ar wahanol adegau yn ei yrfa mewn capeli mewn gwahanol rannau o Gymru ac yn Lerpwl a Llundain. Adnabyddid ef fel "Eglwysbach". Roedd ei anerchiadau mor bwerus fel bod ei gynulleidfaoedd weithiau'n llesmeirio, gan orfodi’r pregethwr i eistedd yn dawel hyd nes i’w wrandawyr ddod a’u hemosiynau o dan reolaeth. Aeth y Parch Evans ar ddwy daith bregethu yn Unol Daleithiau America. Dywedir iddo droi miloedd o bobl i Fethodistiaeth Wesleaidd.

Photo of medical centre interiorYn 1893, sefydlodd genhadaeth yn ganoledig ar Bontypridd ar gyfer maes glo De Cymru. Yn 1894, dechreuodd gylchgrawn misol o'r enw Y Fwyell, wedi'i dargedu at y cymunedau glofaol. Yn ôl adolygiad papur newydd o’r adeg, roedd Y Fwyell yn cynnwys “matter of a right earnest nature which is calculated to do much good to the Pontypridd and Rhondda people, among whom … Mr Evans circulates for the most part these days”.

Ar ôl ei farwolaeth ym 1897, roedd Methodistiaid Wesleaidd De Cymru yn awyddus i greu cofeb addas iddo. Y canlyniad oedd y capel newydd ar lan yr afon Taf, a enwyd Capel Goffadwriaethol Eglwysbach. Mae'r gorffeniad brics coch, gyda chorneli a manylion eraill o garreg Caerfaddon, yn cyfleu mawredd. Mae'r wal sy’n wynebu'r afon – yn anweledig i'r gynulleidfa pan oeddent yn cyrraedd – wedi ei adeiladu o gerrig rhatach, o ffynonellau lleol.

Roedd y capel mewn cyflwr gwael pan ddechreuodd meddygon teulu lleol i adfer a thrawsnewid yr adeilad i greu practis meddygol, a agorodd yn 1990. Cydnabyddwyd ansawdd yr addasiad gyda gwobr Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru yn 1992. Mae'r ystafelloedd ymgynghori o gwmpas yr ochrau, o dan oriel y capel. Mae'r rhan ganolog o'r nenfwd, wedi ei haddurno gyda dau batrwm rhosyn, i’w weld o hyd.

Roedd meddygon teulu Pontypridd yn flaenorol wedi’u hymgasglu yn Heol Gelliwastad, a ystyrid yn Harley Street y dref! I ddechrau, roedd ganddynt bractisiau unigol ynghlwm wrth eu cartrefi.

Ble mae'r HiPoint hwn?

Côd post: CF37 2AA

Gwefan Meddygfa Eglwysbach