Sir John’s Hill, Lacharn

Sir John’s Hill, Lacharn

Portrait of Sir John Perrot, Lord of Laugharne

Mae’r bryn yn dal i gael ei alw’n Sir John’s Hill ac yn coffáu Syr John Perrot (1528-1592). Roedd yn ŵr lliwgar dros ben ac yn Arglwydd Maenor Lacharn yn oes Elizabeth. 

Yn ôl ei fab, ni allai ei dad oddef neb yn anghydweld ag ef. Ganed Syr John yn Haroldston, Sir Benfro a bu’n dal nifer o swyddi mawr o ran eu bri. Ac yntau’n Is-lyngesydd Moroedd Cymru, un o’i ddyletswyddau oedd rhwystro môr-ladrata – er ei bod hi’n debygol iddo ef ei hun elwa yn aml o ysbail mor-ladrata. Roedd gwylfa ganddo ar ben y bryn – dyna sut y cafodd y bryn ei enw. 

Twyllwyd bwrgeisiaid lleol gan Syr John (llun ohono ar y dde) er mwyn iddo allu ehangu ei fenter pori defaid ar y morfa i’r deau o’r bryn. Roedd yn Ddirprwy Arglwydd Iwerddon; cipiodd dir oddi ar y Gwyddelod a’i rannu i wladychwyr o Saeson. Aeth i helynt yn y pen draw am beidio â thrin y Gwyddelod Catholig yn ddigon llym. Wedi iddo gael ei gyhuddo ar gam gan esgob Anglicanaidd o fradwriaeth, cafodd ei garcharu yn Nhŵr Llundain. Bu farw yno yn 64 oed.

Enw’r pentir yw Barques Point. Mae’r dŵr sy’n llifo o’r corstiroedd drwy Railsgate Pill yn sgwrio sianel lle y gallai llongau hwylio angori’n ddiogel yn y dyddiau pan oedd Lacharn yn borthladd masnachu prysur (rhwng yr unfed ganrif ar bymtheg a chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg). Roedd barques (llongau hwylio a chanddyn nhw dri hwylbren) ymhlith y llongau er bod tuedd i gyfeirio at bob llong hwylio fawr wrth yr enw hwnnw.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail roedd gwylfa wedi ei sefydlu drachefn ar Sir John’s Hill; bu yno gydol y Rhyfel Oer yn ogystal.

Ger yr arwyddion QR wrth glwyd Salthouse Farm, mae llechen i goffáu adeiladu’r droedffordd yn 1886 gan Gorfforaeth Lacharn. Chwe chanrif ynghynt roedd y Normaniaid wedi meddiannu Lacharn ac wedi rhannu lleiniau ger y castell i fewnfudwyr – a’u galw’r gwŷr hynny’n fwrgeisiaid. Bydden nhw yn gefnogol i’r Norman ac yn barod i amddiffyn y castell petai angen. Byddai’r bwrgeisiaid yn ethol arweinydd ar gyfer y Gofforaeth bob chwe mis, rheithgor i ddyfarnu anghydfod ynghyd â dau gwnstabl i gadw trefn.

Mae Lacharn bron yn unigryw o ran cadw Corfforaeth weithredol o’r cyfnod hwn. Mae Corfforaeth Lacharn yn berchen ar dipyn o dir ac eiddo, gan gynnwys y tir islaw’r llwybr lle y mae’r clogwyni. Dyma ffynhonnell y balast er mwyn sicrhau sefydlogrwydd llongau gweigion, yn ogystal â darparu cerrig ar gyfer adeiladau Lacharn ei hun ynghyd â muriau is y castell.

Ynghylch yr enw lle ‘Lacharn’:

Mae’r ffurf seisnigedig Laugharne yn tarddu o Talacharn gyda tâl- (‘pen pellaf neu uchaf’) a Lacharn neu Acharn a allai fod yn gyfuniad o llachar a carn. Enw ar gwmwd ac arglwyddiaeth oedd Talacharn ond trosglwyddwyd yr enw yn gynnar i ddynodi’r dref.

Gyda diolch i Peter Stopp, o Hanes Cymundol Lacharn, ac i'r Athro Dai Thorne, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button