Cymraeg Llansannan writers' memorial
Cofeb llenorion Llansannan
Mae'r gofeb hon yn enwi pump o feibion Llansannan a gyfrannodd yn sylweddol i lenyddiaeth Gymraeg.
Ystyrir William Salesbury (tua 1520 - tua1584) yn un o’r bobl mwyaf deallus yng Nghymru yn ei gyfnod. Ar adeg dyngedfennol yn hanes Prydain, gosododd y sylfeini i’r iaith Gymraeg i oroesi. Fe’i ganed yn Llansannan a bu'n byw y rhan fwyaf o'i oes yn Llanrwst. Astudiodd yn Rhydychen ac roedd ganddo awch i ddarparu deunyddiau i bobl Cymru fedru addysgu eu hunain ac addoli drwy’r Gymraeg. Yn 1547 cyhoeddodd Salesbury eiriadur Saesneg-Cymraeg, efallai y llyfr cyntaf a argraffwyd erioed yn Gymraeg. Hefyd, cyhoeddodd lyfr o ddiarhebion Cymraeg.
Mae Salesbury fwyaf adnabyddus heddiw am ei waith fel prif gyfieithydd y Testament Newydd Cymraeg cyntaf a'r Llyfr Gweddi Gyffredin o 1563 hyd 1567. Cafodd ei gynorthwyo gan yr Esgob Richard Davies, oedd yn byw yn Llys yr Esgob, Caerfyrddin. Dechreuodd y pâr gyfieithu'r Hen Destament, ond dywedir iddynt roi’r ffidil yn y to pan na allent gytuno ynglŷn â chyfieithu un gair penodol! Cyhoeddwyd y Beibl llawn yn Gymraeg ym 1588 ar ôl gwaith cyfieithu yr Esgob William Morgan, a fagwyd ger Penmachno ac oedd yn addoli yn yr eglwys leol.
Bardd oedd Tudur Aled (tua 1480-1526), meistr ar y rheolau caeth. Crwydrai o amgylch Cymru, yn cyfansoddi penillion o glod i ddynion pwerus neu grefyddol. Ym 1524 fe gyd-drefnodd eisteddfod Caerwys, gyda'r nod penodol o osod trefn ar feirdd Cymru a’u crefft. Un o'i noddwyr pennaf oedd Syr Rhys ap Thomas, prif gefnogwr Harri Tudur yn ei ymgyrch lwyddiannus i gipio'r orsedd fel y Brenin Harri VII.
Roedd Henry Rees (1798-1869) yn weinidog amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cymaint oedd y galw am ei bregethau fel y symudodd i Lerpwl ym 1836 ac ymwelodd â'r Unol Daleithiau ym 1839 a Berlin ym 1857. Ysgrifennodd lawer ar gyfer cyfnodolion, a chyhoeddwyd dwy gyfrol o'i bregethau. Bu farw ym Menarth, Conwy.
Gwilym Hiraethog oedd enw barddol William Rees (1802-1883), brawd Henry. Roedd yn fardd toreithiog. Yn Lerpwl ym 1843, sefydlodd Yr Amserau, y papur newydd Cymraeg cyntaf i lwyddo. Cyfunodd y papur yn ddiweddarach gydag Y Faner. Cyneuodd ei ysgrifau radical hunan-ymwybyddiaeth y Cymry, tuedd a arweiniodd at sefydlu llywodraeth a Senedd Cymru ym 1999.
Iorwerth Glan Aled oedd enw barddol y pregethwr Edward Roberts (1819-1867). Ysgrifennodd llyfrynnau ac erthyglau ar gyfer cyfnodolion ar bynciau amrywiol gan gynnwys hanes, llenyddiaeth a chrefydd.