Cymraeg Paentiadau yn yr Institiwt

Caernarfon town council logoPaentiadau yn yr Institiwt, Allt Pafiliwn, Caernarfon

Ar waliau’r Institiwt, gwelir paentiadau a gasglwyd gan Gyngor Tref Frenhinol Caernarfon ar hyd y blynyddoedd. Nid yw’r adeilad ar agor i’r cyhoedd fel arfer, ond mae’r detholiad o luniau a welir isod yn rhoi blas i chi ar y gwaith celf sydd i’w weld y tu mewn iddo.

Côd post: LL55 1AT    Map

The Awakening of Wales small image
Deffroad Cymru

Deffroad Cymru Yn ôl rhai, y paentiad hwn yw’r llun mwyaf eiconig yng Nghymru. Mae’n dangos Gwenllian, merch Owain Glyndŵr, yn codi i ryddid ar ddraig goch ffyrnig. Methodd gwrthryfel Glyndŵr yn y 15fed ganrif i ryddhau Cymru rhag gormes Lloegr, ond crëwyd y paentiad hwn ym 1911, pan oedd hyder newydd gan bobl yn eu hunaniaeth Gymreig. Gallwch ddarllen mwy ynglŷn â’r tueddiad hwn yn ein tudalen am y Senedd, penllanw’r tueddiad hwn.

Yr arlunydd yw Christopher Williams (1873 - 1934), a aned ym Maesteg, ger Pen-y-bont ar Ogwr. Mae naws alegorïaidd i lawer o’i waith, ac mae hwn wedi’i seilio’n fras ar gerflun ifori yn Oriel Gelf yr Arglwyddes Lever, Cilgwri, sy’n dangos Andromeda yn dianc o grafangau anghenfil o’r môr. Fe’i comisiynwyd gan yr Aelod Seneddol Lleol, David Lloyd George, a ddaeth yn Brif Weinidog ym 1916, i ddarlunio’r Cymry ym Mametz, fel yr esbonnir yma.

The Awakening of Wales small image
Arwisgo 1911

Arwisgo 1911 Paentiad arall gan Christopher Williams, dyddiedig 1914. Mae’n darlunio’r seremoni dair blynedd yn gynharach pan wnaed Edward yn Dywysog Cymru - ef a ddaeth wedyn yn Frenin Edward yr Wythfed. Gallwch weld Winston Churchill a David Lloyd George yn y llun, ac aelod o deulu Lloyd George a gyflwynodd y llun i’r cyngor.

Myfanwy small image
Myfanwy

Myfanwy Paentiad gan Thomas Leonard Hughes yw hwn ac mae’n cyfleu bywyd dychmygol yn y canol oesoedd. Enillodd y llun y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol 1890 a gynhaliwyd ym Mangor. Roedd Myfanwy yn enigma o’r cyfnod Rhamantaidd, ac efallai ei bod hi’n fwy cyfarwydd i ni fel testun y gân serch a gyfansoddodd Joseph Parry iddi. Lawer cynharach, cyfeiriodd y bardd Hywel ab Einion Lygliw (1330 - 70) at Myfanwy Fechan a oedd yn byw yng Nghastell Dinas Brân, Llangollen, gan ei disgrifio fel “Myfanwy drist”.

 

John Morgan portrait small image
John Morgan

Portread o John Morgan Roedd John Morgan yn Faer Caernarfon cyn ac ar ôl Deddf Diwygio 1834 – y ddeddf a wnaeth swydd y maer yn un etholedig. Roedd yn Asiant i Iarll Uxbridge, sef tad y dyn a ddaeth yn Ardalydd cyntaf Ynys Môn. Mae’r enw’n dal i gael ei gofio hyd heddiw, gyda bodolaeth Uxbridge Square. Mae’r paentiad hwn yn dangos John Morgan yn cario sgrôl ag arni gyfarchion ffyddlon i’r Frenhines Victoria adeg ei choroni.

 

Sir John Puleston portrait small image
Sir John Puleston

Syr John Puleston Paentiwyd y portread hwn o Syr John Puleston (chwith) ym mis Mawrth 1906 gan yr Athro Hubert Von Herkomer, a ddaeth yn ddiweddarach yn arloeswr ym myd ffilm ym Mhrydain. Roedd Syr John yn hanu’n wreiddiol o Ddyffryn Clwyd a daeth yn un o bwysigion y Torïaid, yn fanciwr ac yn saer rhydd yn Llundain. Cyflwynwyd y llun iddo gan Gymdeithas Ceidwadwyr Dinas Llundain (cymdeithas y bu’n gadeirydd arni am 16 o flynyddoedd) a Cheidwadwyr eraill Dinas Llundain.

Ef sefydlodd y gwasanaeth carolau Cymraeg yn Abaty Westminster ac roedd yn drysorydd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n byw yn UDA rhwng 1856 a 1860, yn olygydd dau bapur newydd ac yn gyfaill i’r Arlywydd Abraham Lincoln. Fe’i gwnaed yn Gwnstabl Castell Caernarfon ond fe’i trechwyd yn ei gais i ddod yn Aelod Seneddol dros Gaernarfon gan David Lloyd George ym 1892. Cyn hynny, bu’n Aelod Seneddol dros Devonport.

Gwefan Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon