Enwau lleoedd Cydweli

Cydweli yw’r enw Cymraeg ar y dref ddiddorol hon. Dyma gyfran o’r dystiolaeth ddogfennol sy’n tystio i ffurf yr enw: Cadweli 1114, (provincia) Cetgwueli 11eg ganrif, Cedgwueli c.1150, Kedwely c.1191, Kydwelly 1458, kydweli 1566.

Ystyr yr enw yw “tir sy’n eiddo i Cadwal”. Enw ar berson y diflannodd pob sôn amdano yn niwl y canrifoedd yw Cadwal. Ychwanegwyd y terfyniad ”-i” sy’n dynodi tiriogaeth at yr enw hwnnw a datblygodd “Cadwal-i” yn “Cedweli” ac yn “Cydweli”. Maes o law yn sgil seisnigeiddio’r ffurf cafwyd Kidwely. Ceir enghreifftiau eraill o’r terfyniad tiriogaethol “-i” mewn enwau megis Ceri (Powys) sy’n tarddu o “Câr” + “-i”, Llewenni (Sir Ddinbych) o “Llawen” + “-i”, ac Arwystli (Powys) o “Arwystl” + “-i”.

“Cadwali” oedd enw’r cwmwd yn wreiddiol ond trosglwyddwyd yr enw i ddynodi’r fwrdeistref pan sefydlwyd honno c.1115.

Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen a David Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru