Safle llongddrylliad y Spanker, Morfa Harlech

Safle llongddrylliad y Spanker, Morfa Harlech

Cafodd llawer o longau eu difa ar hyd arfordir Morfa Harlech (ychydig y tu hwnt i'r twyni o'r codau QR ar gyfer y dudalen hon), gan gynnwys y Spanker, a gollwyd gan nad oedd ei chapten yn ymwybodol fod goleudy Enlli wedi newid o roi golau cyson i olau a oedd yn fflachio.

Adeiladwyd y Spanker yn Dumbarton yn 1860 ac fe’i chofrestrwyd yn Glasgow. Ei pherchennog a meistr oedd R Whitehall. Yn oriau mân 7 Chwefror 1885, yr oedd yn dod i ddiwedd taith o Jamaica i Lerpwl gyda llwyth o foncyffion coed pan rhedodd ar y lan ym Morfa Harlech.

Atebodd fad achub Criccieth yn gyflym, ond aeth diffoddodd goleuadau’r Spanker wrth i’r 10 rhwyfwr rwyfo tuag at y llong. Roedd yn rhaid i'r criw aros nifer o oriau ar y môr tan olau dydd, heb unrhyw ddarpariaethau (gan nad oeddent wedi oedi cyn cychwyn). Roedd dŵr o'r tonnau mawr yn eu gwlychu’n barhaus.

Painting of Spanker shipwreckGyda’r wawr, gwelodd criw’r bad achub weddillion y Spanker yn tonnau ger y lan, gyda saith o'i morwyr yn glynu at y rhaffau ar un rhan o’r llong a oedd wedi gwahanu oddi wrth y gweddill – fel y gwelwch yn y llun gan Robert Cadwalader. Roedd y pedwar aelod arall o'r criw wedi boddi: Capten Whitehall; y stiward; y boatswain; a Harris y saer.

Cludodd y bad achub y goroeswyr  i Gricieth, lle roedd cannoedd o drigolion wedi casglu y tu allan i dŷ’r bad achub. Gofalodd y gymuned am y goroeswyr a chasglu swm sylweddol o arian iddynt brynu dillad. Adroddodd papur newydd fod Mr Greaves o Blas Hen, Uchel Siryf y Sir, wedi eu gwahodd i ginio ar ddydd Sul.

Canfu ymchwiliad y Bwrdd Masnach fod y Spanker wedi ei cholli oherwydd mordwyo ddiofal ac amhriodol, gan nad oedd y meistr a'r mêt yn ymwybodol bod goleudy Ynys Enlli wedi newid o olau sefydlog i olau a oedd yn troi. Ond nid oedd bai ar y mêt, Peter Wood, yn ôl yr ymchwiliad.

Gyda diolch i Robert Cadwalader, o Amgueddfa Forwrol Porthmadog

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button