Yr Adelphi, Abertawe

Yr Adelphi, 18-19 Heol y Gwynt, Abertawe

Yr Adelphi Hotel fu’r enw ar yr adeilad Fictoraidd hwn ers cyfnod maith. Cyn hynny roedd siopau ar y safle. Yn 1854 roedd gan Josiah Cock, gwerthwr te a groser, siop yn rhif 18.

Tua diwedd yr Ail Ryfel Byd, a milwyr o dramor yn gwersylla’n lleol a bar yr Adelphi dan sang yn disgwyl glaniadau D-day, roedd Americanwr ifanc o’r enw Rocco (“Rocky”) Marciano yn yr Adelphi un noson. Cafodd ei sarhau gan sarjant o Awstraliad a bu’r ddau’n ymladd. Yn ôl yr hanes roedd yr Awstraliad wedi difrïo Rocky am nad oedd yn yfed alcohol. Soniodd Rocky am y peth wrth newyddiadurwr: “Diwedd y gân oedd bod yr Awstraliad wedi ei gael ei hun mewn cwrw cynnes. Yr Adelphi oedd enw’r dafarn; sgrifennais i’r enw ar ddarn o bapur, rhag ofn y byddai’r Awstraliad am godi’r pwnc eto.”

Ar ôl y rhyfel bu’n bencampwr paffio pwysau trwm am bedair blynedd yn y 1950au. Yn 1951 cafodd fuddugoliaeth yn erbyn y cyn-bencampwr, Joe Louis; bu yntau yng Nghymru (ym Mangor) yn ystod y rhyfel. Bu farw Rocky mewn damwain awyren yn 1969.

Yn 1907 cynhaliwyd cinio ffarwél yn yr Adelphi i Monsieur Goddard, un o aelodau mwyaf poblogaidd y gymuned Ffrengig yn Abertawe, a oedd yn symud i Le Havre i reoli busnes glo. Y flwyddyn honno hefyd, croesawyd i’r gwesty gymdeithas unigryw y Cape Horners - gwŷr a oedd wedi hwylio’r moroedd anghynnes o gwmpas Cape Horn. Roedd un o’r cwmni, Capten Odie o Lansawel, wedi gwneud y daith 21 o weithiau. Yn ôl adroddiad papur newydd roedd eitemau rhyfeddol megis “jibboom-spirit sauce, salt horse [and] spotted dick” ar y fwydlen.

Dyma fan cyfarfod yr Adelphi Air Rifle Club. Yn 1910 trefnodd David Evans, y tafarnwr, gyngerdd “swpera ac ysmygu” yn rhad ac am ddim i ddathlu ennill Cynghrair Reiffl Awyr Abertawe a’r Cylch a Tharian Her yr Heddlu gan y clwb. Bu farw Mr Evans yn 1918 o’r ffliw Sbaenaidd; mae’n bosibl iddo gael ei daro tra’n helpu’r Groes Goch i ymladd yr haint.

Yn ystod yr 20fed ganrif gwnaed sawl defnydd o’r adeilad i sawl cyn i’r enw Adelphi gael ei atgyfodi gan berchennog newydd sef Mrs Norma Grey yn 2000. 

Côd post: SA1 1DY    Map

Tales of old Wind Street Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button