Glanfa Raynes, Llanddulas

Glanfa Raynes, Llanddulas

Am filoedd o flynyddoedd, llongau oedd yr unig ffordd ymarferol i gludo nywddau trwm o Gymru. Mae'r rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn byw mewn trefi arfordirol, lle roedd hwylio llongau ymhlith y prif alwedigaethau. Pylodd y llongau gyda datblygiad trafnidiaeth dros y tir, ond mae glanfa Raynes yn parhau’r hen draddodiad.

Calchfaen o chwarel Raynes, i'r de, sy’n cael ei symud gan beltiau cludo i'r lanfa, gan groesi ffordd ddeuol yr A55 a'r rheilffordd. O'r lanfa caiff y cerrig eu llwytho i mewn i longau arfordirol sy'n eu cludo nhw i rannau eraill o’r Ynysoedd Brydeinig. Mae’r calchfaen o'r chwarel yn arbenning o bur, sy’n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer y diwydiannau cemegol a sment.

Mae chwarela yn y maes hwn hefyd wedi cynhyrchu calchfaen debyg i borslen ar gyfer defnyddiau pensaernïol o ansawdd uchel. Adeiladwyd Eglwys Sant Margaret (yr “Eglwys Farmor") ym Modelwyddan, Sir Ddinbych, gyda chalchfaen o Landdulas.

Photo of MV Carrier agroundYm mis Tachwedd 2011 suddodd llong, MV Swanland, mewn tywydd stormus ar y Môr Gwyddelig ar ôl casglu 3,000 tunell o gerrig o lonfa Raynes. Roedd y llong yn eu cludo at Ynys Wyth. Cafodd dau o’r criw eu hachub ond collwyd pump, oll o Rwsia.

Ar 3 Ebrill 2012, trawodd MV Carrier, llong 82 metr o hyd, graig ger y lanfa mewn storm wrth geisio gadael y lanfa gyda llwyth o galchfaen. Daeth hofreynnyddion i achub pob aelod o'r criw. Gwthiodd y tonnau’r llong yn erbyn yr amddiffynfeydd môr concrid a’r creigiau, a dorrodd tyllau mewn sawl man yn y metel (gwelwch y llun ar y dde). Penderfynodd perchennog y llong, Reederei Erwin Strahlmann, nad oedd modd achub y llong. Cafodd y llong ei dorri'n ddarnau bach yn y fan a'r lle yn ystod yr wythnosau olynol.

Gyda diolch i Graham Roberts, o Gymdeithas Ddinesig Bae Colwyn

Map

Wales Coastal Path Tour Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button