Cyn-siop naw o frodyr y Rhyfel Byd Cyntaf

Cyn-siop naw o frodyr y Rhyfel Byd Cyntaf, Tan-y-Graig, Llanrwst

Roedd gan y cigydd Samuel Jones, a oedd yn byw ac yn gweithio yma, naw mab yn gwasanaethu gyda'r lluoedd arfog yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Credir mai hyn oedd y record i Gymru. Yn ddiweddarach roedd yn gartref i'r siop gyntaf erioed wedi’i neilltuo i lyfrau Cymraeg, cyfnodolion a chardiau.

Roedd gan Samuel, a aned yn Llanelwy, a'i wraig Hannah (nee Edwards) 12 o blant, y cyntaf a'r olaf ohonynt yn ferched. Roedd un mab, a enwyd Pryce (ond a adwaenir yn gyffredin fel "Pye") yn bêl-droediwr talentog ond bu farw yn 19 oed yn 1904. Bu farw Hannah ar ôl salwch byr yn 1905, yn 51 oed, a Samuel yn 1924, yn 80 oed. Yr oedd wedi byw ei flynyddoedd olaf yn elusendai Llanrwst.

Y naw mab a wasanaethodd yn y rhyfel oedd y Rhingyll Moses, y Llongwr Abl Richard a’r “privates” William, Samuel, David, Robert, William, Ivor ac Arthur. Mynegodd y papur newydd Americanaidd Y Drych y gobaith fod gan y meibion ​​yr un awydd i ladd â’u tad, a oedd yn byw ar ladd.

Lladdwyd Ivor ym Mrwydr Loos yn Ffrainc ar 25 Medi 1915 yn 28 oed. Fe'i gladdwyd ym Mynwent Cambrin, Pas de Calais. Mae ei enw ar gofeb rhyfel Llanrwst. Ef oedd yr unig un o'r brodyr yn y fyddin reolaidd (roedd y lleill wedi gwirfoddoli ar ôl i’r rhyfel gychwyn), a gwasanaethodd yn India cyn y rhyfel.

Mae'r siop wedi cael llawer o ddefnyddiau gwahanol ers hynny, ac mae bellach yn gartref i salon gwallt Slic. Ym mis Hydref 1955 agorodd Arianwen a Dafydd Parri siop yma i werthi cyhoeddiadau yn y Gymraeg. Mae'r busnes yn parhau i fasnachu yn Llanrwst, fel Bys a Bawd. Ysgrifennodd Dafydd gyfres boblogaidd o lyfrau plant am grŵp o anturiaethwyr ifanc o'r enw Y Llewod. Mae Myrddin ap Dafydd, mab i Mr a Mrs Parri, wedi ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith ac mae’n rhedeg Gwasg Carreg Gwalch yn Llanrwst, cyhoeddwr llyfrau ar hanes Cymru a phynciau eraill.

Gyda diolch i Pat Rowley o Gymdeithas Hanes lanrwst a'r Cylch ac i Telfryn Pritchard a Simon Simcox

Cod post: LL26 0LS     Map

Gwefan salon gwallt Slic (Facebook)


Troednodiadau
: Mwy am y brodyr

Roedd William Jones yn fatmon i swyddog yn Great Yarmouth am ran o'r rhyfel. Efallai nad aeth erioed i'r rheng flaen. Ar ôl y rhyfel roedd yn blymwr a gof gwyn (rhywun sy'n gweithio gyda tun neu tunplat).

Torrodd y rhyfel ar draws gyrfa Moses Jones (“Moi”) gyda chwmni’r London & North Western Railway. Daeth yn feistr orsaf yn Nhŷ Croes, Ynys Môn, ym 1909. Roedd yn gwasanaethu yn y lluoedd yn 1915, a daeth yn feistr orsaf ym Mlaenau Ffestiniog yn hwyr yn 1916. Pan adawodd yr orsaf honno yn 1920, cyflwynodd yr Arglwydd Newborough bâr o gwpanau caru (“loving cups”) o arian solet iddo.

Gadawodd nifer o'r brodyr Llanrwst ar ôl y rhyfel gan nad oedd digon o waith yn lleol. Ymfudodd Richard i Ganada. Symudodd Samuel i Dde Cymru.

Cafodd Robert ei effeithio'n wael gan ei brofiadau yn y rhyfel, o bosibl yn dioddef o “shell shock”. Chwiliodd am waith yn Ne Cymru, ond roedd yn colli Llanrwst. Fe gerddodd yr holl ffordd adref a bu’n byw am weddill ei fywyd gyda'i frawd William a'i deulu. Torrwyd un o’i goesau i ffwrdd yn y pen draw. Bu farw yn 1953, yn 72 oed.

Daeth David yn blismon ym Manceinion cyn y rhyfel ac ymrestrodd gyda'r 12fed Manchester Regiment ym mis Hydref 1914. Ar yr adeg roedd ganddo graith ar ei wddf. Cafodd ei glwyfo yn y pen ym mis Ionawr 1916 tra'n gwasanaethu yn Etaples, a'i ryddhau yn sâl o’r fyddin chwe mis yn ddiweddarach.

Bu farw Arthur yn Ne Cymru yn 1963, ar ôl byw ei flynyddoedd olaf mewn tlodi mewn carafán. Nid oedd ganddo unrhyw berthnasau cyfagos i fynychu ei angladd, felly aeth mab William a pherthynas arall o Lanrwst i Lantrisant ar gyfer yr achlysur.