Hen Eglwys Llangelynnin

Hen Eglwys Llangelynnin

Photo of skull drawing in Llangelynnin churchSaif yr eglwys wledig hon mewn mangre drawiadol ac anghysbell wrth droed mynyddoedd y Carneddau.  Yn yr oes gynhanesyddol a’r Rhufeinig, arferai pobl deithio drwy ucheldir yr ardal hon.  Ar un adeg, y ffordd drol sy’n mynd heibio’r fynwent oedd y brif ffordd rhwng Penmaenmawr a Dyffryn Conwy.

Adeiladwyd yr eglwys o gerrig geirwon.  Credir fod corff yr eglwys yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif neu’r  drydedd ar ddeg, gweddillion llofft y grog o’r bymthegfed a’r to o’r unfed ar bymtheg. Tu fewn, ar y mur dwyreiniol, ceir llun o benglog ac esgyrn croes a ddarganfuwyd ym 1993. Mae’n rhan o arysgrif amlwg y Credo a’r Deg Gorchymyn a ddaeth i’r golwg yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif.

Ym 1840, codwyd eglwys newydd i gymryd lle yr hen un, honno hefyd ar enw Celynnin Sant, mewn man mwy hygyrch yn agos at Rowen.  Digysegrwyd yr eglwys newydd, ond cynhelir gwasanaethau achllysurol o hyd yn yr hen eglwys, yn yr haf fel arfer.

Photo of newly ordained Eryl Parry with bishop at Llangelynnin churchYn y fynwent ceir ffynnon sydd fel yr eglwys yn gysegredig i Gelynnin Sant.  Credid ar un adeg fod iddi gyneddfau gwella cleifion, yn enwedig plant.

Y chweched ganrif oedd cyfnod Celynnin; dywedir ei fod yn un o ddeuddeg mab Helig ap Glannog a gollodd ei gartref, sef Llys Helig, pan y’i boddwyd gan y môr. O ganlyniad, cadwodd ei feibion at fuchedd dduwiol, rhai ohonynt fel mynachod.

Ym mis Awst 2020 ordeiniwyd y Parch Eryl Parry yn yr eglwys gan y Gwir Barchedig Andy John, Esgob Bangor. Ni ellid cynnal y seremoni yng Nghadeirlan Bangor (y lleoliad arferol am ordeiniadau) oherwydd cyfyngiadau yn ystod pandemig Covid-19. Roedd yr esgob, Eryl a'r nifer fach o westeion yn gwisgo mygydau dros eu trwynau a'u cegau. Mae'n debyg mai hwn oedd ordeiniad cyntaf offeiriad yma, ac yn sicr ordeiniad cyntaf offeiriad benywaidd yma. Mae'r llun ôl-ordeinio (diolch i'r ffotograffydd Mark McNulty) yn ei dangos yn ei hesgidiau cerdded gyda'r esgob, yn dal ei fwgwd yn ei law dde.

Map

Pilgrim's Way Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button