Safle ysgarmes John Prescott

Safle ysgarmes John Prescott, Ffordd y Dyffryn

Yma, y tu allan i'r Theatr Fach, y cynhyrchwyd y ffilmiwyd y delweddau teledu mwyaf cyffrous yn ymgyrch etholiad cyffredinol 2001, pan fu’r Dirprwy Brif Weinidog, John Prescott, mewn ysgarmes gyda phrotestiwr.

Ganed Mr Prescott, a ddaeth yn Arglwydd Prescott yn 2010, ym Mhrestatyn ym 1938 a symudodd gyda'i deulu i Swydd Efrog pan oedd yn bum mlwydd oed. Tra’n AS Llafur dros Dwyrain Hull, etholwyd ef yn ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur ym 1994. Penododd y Prif Weinidog Tony Blair ef yn Ddirprwy Brif Weinidog pan ddaeth Llafur i rym yn 1997. Gwnaeth y swydd am 10 mlynedd, yn hirach nag unrhyw ragflaenydd.

Photo of John Prescott fracas
© Gerallt Jones

Gyda’r nos ar 16 Mai 2001, gamodd oddi ar ei fws, y "Prescott Express", gyda'i osgordd a cherddodd tuag at y Theatr Fach, lle y byddai’n cyflwyno araith am maniffesto etholiadol newydd y blaid. Roedd torf o brotestwyr ar y palmant yn amlygu ei hanfodlonrwydd gyda’r modd yr oedd y Llywodraeth wedi ymdrin â materion gwledig. Taflodd un protestiwr, dyn 29-mlwydd-oed, wy at Mr Prescott.

Ymatebodd y gwleidydd gyda phwniad â’r chwith, ac yna fe fu'r dynion yn ymgodumu am rai eiliadau. Gwthiwyd Mr Prescott ar ei gefn ar y wal isel o flaen y theatr. Roedd y digwyddiad, o flaen camerâu teledu a'r wasg, yn newyddion cyffrous.

Cymerwyd y protestiwr at orsaf yr heddlu ond ni chymerwyd camau cyfreithiol yn ei erbyn. Traddododd Mr Prescott ei araith yn y theatr, ac fe gafodd ei gyfweld yn ddiweddarach gan yr heddlu a’i rybuddio. Enillodd Llafur yr etholiad gyda mwyafrif o 166 o seddi.

Dychwelodd Arglwydd Prescott i'r Theatr Fach yn 2013 a chael tynnu ei lun gan y wasg gydag wy siocled.

Agorwyd y Theatr Fach yn 1963 –  y theatr gyntaf yn y DU yn benodol ar gyfer plant.

Cod post: LL18 2BS    Map