Eglwys y Santes Fair, Caerhun

Eglwys y Santes Fair, Caerhun

Adeiladwyd yr eglwys hon yn gynnar yn yr Oesoedd Canol. Yn y bymthegfed ganrif a’r unfed ar bymtheg cafodd ei ehangu a’i newid. Credir fod rhai o’r coed yw yn y fynwent tua 1,200 mlwydd oed.

Cyn mynd i mewn i’r fynwent trwy’r porth, sylwch ar risiau ar y dde. Pwrpas y llwyfan bychan carreg oedd cynorthwyo pobl i esgyn ar gefn eu ceffylau ar ôl gwasanaethau.

Y sôn yw fod y grisiau ym mur y fynwent yno i’w defnyddio pan fyddai arch yn llenwi’r porth. Byddai’r cludwyr yn aros yno i ddisgwyl am yr offeiriad i dderbyn y corff a dechrau’r gwasanaeth claddu. Fodd bynnag, mewn llun o Oes Fictoria, gwelwn rai o’r gynulleidfa’n defnyddio’r grisiau dros y mur ar ddiwedd gwasanaeth cyffredin. Os yw’r llun yn gywir ac nid yn ffrwyth dychymyg yr arlunydd, gallai awgrymu fod y porth efallai ar gyfer aelodau mwy blaenllaw a’r grisiau ar gyfer y gweddill.

Saif yr eglwys yng nghongl ogledd-orllewinol hen gaer Rufeinig Canovium. Credir i flociau tywodfaen coch ym muriau’r eglwys gael eu hailddefnyddio o’r adfeilion Rhufeinig. Mae’r muriau o gerrig geirwonyn bennaf. Mae lle i ddwy gloch yn y clochdy ond dim ond un sydd yno, ac arni’r dyddiad 1657.

Mae’r to dros y corff a’r gangell yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed. Yn ôl arysgrif Ladin, codwyd yr adain ym 1591 gan Edward Williams a’i wraig Grace.

Map

Gwefan y plwyf