Gwesty Grosvenor, Aberteifi

tour logo and link to information page

Gwesty Grosvenor, Bridge Street, Aberteifi

Adeiladwyd hwn fel tŷ ddiwedd y 18 ganrif a’i alw’n Bridge House. Bu’n dafarn am gyfnod yn ddiweddarach gan fanteisio ar ei safle amlwg ar waelod Bridge Street. Wrth i drafnidiaeth groesi pont Aberteifi, sy’n dyddio o bosibl o’r 13 ganrif, byddai’r dafarn yn fan deniadol ar eu cyfer cyn dringo’r rhiw serth i ganol y dref. Tafarn a bwyty sydd yno bellach heb ystafelloedd gwely i westeion. Cadwyd yr enw Grosvenor Hotel.

Mae’r ffenest hanner cylch dros ddrws y ffrynt yn y ffrâm gwreiddiol. Nodwedd hynod ar du blaen yr adeilad yw nad yw ffenestri’r llawr cyntaf yn gyflin â nodweddion y llawr gwaelod, megis y drws.

Yn ystod degawdau cynnar y 19 ganrif roedd David Davies a’i frawd Thomas yn rheoli busnesau diwydiannol a morol o Bridge House. David Davies oedd Siryf Sir Aberteifi ym 1835. Hysbysebodd am denant “i’r storfeydd helaeth, cyfleus, y swyddfeydd, y bragdy a’r odyn ac yn y blaen” yn Bridge Street ynghyd â’r “cei oddi tanynt”.  Nododd bod modd dadlwytho nwyddau ar y cei ac osgoi taliadau cludiant. Honnai bod masnachu wedi bod ar y safle am gyfnod o 50 mlynedd.

Yn Awst 1485 croesodd byddin fechan Harri Tudur afon Teifi yn y man hwn ar y ffordd i Bosworth. Yn sgil y fuddugoliaeth yno y cafodd ei goroni’n Harri’r VII. Ni chafwyd nemor wrthwynebiad o du castell Aberteifi. Cnewyllyn o staff yn unig oedd yn y castell gan nad oedd swyddogion Richard III wedi rhagweld y byddai neb oedd am herio’i awdurdod yn mynd ar gyfyl y lle.

Wrth i’r hanes am laniad Harri ledu, roedd y rheini a oedd yn deyrngar i’r brenin wedi mynd ati i gryfhau amddiffynfeydd ar hyd y llwybr amlycaf o’r gorllewin i’r dwyrain ar draws De Cymru.

Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad


Cod post: SA43 1HY Map

Henry Tudor’s route to Bosworth  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button