Eglwys Sant Hilary, Llanilar
Eglwys Sant Hilary, Llanilar
Dywedir bod yr eglwys hon yn dyddio o’r 14 ganrif. Mae’r fynwent ar ffurf cylch caeedig sy’n awgrymu bod cell grefyddol -llan- yma yng nghanrifoedd cynnar Cristnogaeth yng Nghymru. Mae’r eglwys wedi’i chysegru naill ai i Hilary, esgob dinas Poitiers yn Ffrainc neu i Gristion cynnar o Gymro o’r enw Ilar.
Addsawyd yr eglwys ganoloesol wrth adnewyddu’r adeilad yn y 1870au. Yn y cyntedd y mae carreg Geltaidd gerfiedig o Gaer Maesmynach, bryngaer ger Llanbedr Pont Steffan.
Mae’n debygol bod y tŵr gwreiddiol yn uwch. Cafodd ei ostwng yn y 19 ganrif. Mae dwy gloch yma, un ohonyn nhw yn dyddio o c. 1350. Symudwyd hi o eglwys Rhos-y-garth pan gaewyd honno ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Mae traddodiad i Harri Tudur a chnewyllyn o’i fyddin deithio drwy Llanilar yn Awst 1485 ar y daith o Sir Benfro i Faes Bosworth. Dywedir iddo fynd ar gefn ei geffyl o ben carreg a welir hyd heddiw ger clwyd yr eglwys. Mae’n bosibl i Harri dreulio’r nos yn Llaidiardau, tŷ sylweddol tua 1.4 km i’r dwyrain o Llanilar. Cysgodd ei wŷr yn yr eglwys.
Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: SY23 4SA Map