Lido Ponty, Pontypridd

button-theme-womenlido logo

Lido Ponty - Lido Cenedlaethol Cymru, Pontypridd

Agorodd y Lido ym Mharc Coffa Ynysangharad ar 30 Gorffennaf 1927 i hybu plant ac oedolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau iachus, awyr agored, mewn cyfnod lle'r oedd diwydiant trwm yn dominyddu'r dirwedd leol a llygru'r amgylchedd.

Photo of swimmer Jenny James
Jenny James

Roedd y pwll nofio awyr agored yn drysor Parc Coffa Ynysangharad. Ymysg y nofwyr cyntaf i fynd i'r dŵr oedd Jenny James. Cafodd ei gallu nofio hi ei nodi ers iddi fod yn saith mlwydd oed, ac roedd hi'n achubwraig yn y Lido pan oedd yn fenyw ifanc. Ym 1951, yn 24 oed, hi oedd y person cyntaf o Gymru i nofio'r Sianel, a hynny mewn 13 awr 55 munud. Yn ystod ei gyrfa hi fel hyfforddwraig nofio ac achubwraig, gwnaeth hi achub dros 100 o fywydau. Ar ôl iddi ymddeol, roedd hi'n byw yw yn Rhydfelen, Pontypridd a bu farw yn 2014, yn 87 oed.

Nofiodd Syr Tom Jones, brodor o Drefforest, yn y Lido hefyd pan oedd yn ifanc, a hel atgofion o'r 'Ponty Baths' mewn sawl cyhoeddiad.

Roedd y Lido ar agor o 1927 tan 1991, pan gafodd ei dadfeilio.  Serch hynny, ail-agorodd 'Lido Ponty' yn 2015 ar ôl adnewyddiad gwerth £6.3m, wedi'i ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw a CBS Rhondda Cynon Taf. Mae'r Lido bellach yn cynnwys cyfleusterau modern, gan gynnwys tri phwll nofio wedi'u twymo, cawodydd ac ystafelloedd newid gyda gwres - felly, dim crynu na rhincian eich dannedd rhagor!  Mae llawer o nodweddion gwreiddiol y Lido wedi'u hadnewyddu i ymddangos fel oedden nhw yn y 1920au, gan gynnwys pensaernïaeth celf a chrefft, teils to steil Canoldirol, ciwbiclau pren a'r giatiau tro gwreiddiol.

Old photo of Pontypridd lido
Ardal y menywod yn y pwll nofio yn y 1930au

I ddarganfod rhagor am hanes y Lido ewch i gael cip yn y ganolfan i ymwelwyr, sydd uwchben caffi  The Waterside. Mae'r ganolfan i ymwelwyr ar agor drwy'r flwyddyn, ond mae'r pyllau nofio ar agor yn dymhorol. Cliciwch y ddolen isod am fanylion.

Gyferbyn â'r Lido mae ardal chwarae antur newydd i blant, sy'n cynnwys nodweddion sy'n dathlu treftadaeth ddiwydiannol yr ardal.

Côd post: CF37 4PE    Map

Gwefan Lido Ponty - Lido Cenedlaethol Cymru

 

 

 
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button